1O ’r Aipht pann aeth Israel râ dh
A thuŷ Iaco ’n faith dhigudh:
O dhiwrth dhynion feilchion fodh
Anwybodol enw bedydh.
2A Iuda dha yna ior
Dhewis hynt oedh i seintwar
Ag Israel, a gafael gwr
Bu yn arglwydhiaeth bêr.
3Y môr or goror ae gwyl
Ac odhiyno gwthio ar gîl:
Vrdhonen geinwen dan gêl,
Drwy dhawn oll a drodh ynol
4Neidiai ’r mynydhoedh nôdan
Fal hydhod hyrdhod heirdhion:
A phob rhŷw oll a phob brynn
Fal wynos o fawl enwen.
5O fyd beth a dharsu yt fôr
Pann giliaist poen a galar:
Vrdhonen o râdh iown‐wir
Y kiliaist iawn ofnaist nêr.
6Paham fynydhoedh oedhych
Nôdau hyrdhod y neidiwch:
Ar bryniau golau gweloch
Fal wyn diofal anach.
7Ofna ’r dhaear a garwn
Gwir bris yr arglwydh ger bron:
O flaen neb yw wyneb ynn
Duw Iaco nêr diogan.
8E dry graig a daear gronn:
Oedh arwa llêd yn dhwr llynn
Ar gallestr arw ae gollwn
Yn hoff annwyl yn ffynnon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.