Psalmau 70 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y LXX Psalm. Y gyhydedh wendrosgl neu

1Im gwared rhed rhwydh

Duw eurglod arglwydh

Kymorth fi, arwydh gwiwr-wydh gorau:

2Kywilydh rhydh rhaid

Kair gostwng blwng blaid

A gais fy enaid gwas wy finnau:

Koeliwch fi kiliant

O ludh kwilydhiant

Im drwg a chwardhant oer-blant arw-blau.

3Gwarad wydh, swydh synn

Gwir syd gwr a fynn

Gwatwar tynn er hynn gelyn golau.

4Llawen gwên pob gwr

Ath gais ais oeswr

Ynot i gyflwr rhadwr rheidiau.

Y gwr a garo

I iechyd vcho

Molwch dhuw yno medhai fo ’n fau.

5Wyf druan wann was

Duw gwared gvras

Dyro help rhag kas galanas glau.

Dy gymorth porth per

Duw naf ydwyd ner

Duw tyner noder na wna oedau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help