Psalmau 27 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y Psalm. XXVII. Cywydd Deuair Hirion.

1Pwy a ofnaf naf nafoedh?

A Duw im goleuad oedh.

A Duw fy nerth wyd fy naf

Sawoiwr wyf pwy a arswydaf?

2Ag yno y kenfigenweilch

Im erbyn bydh oerbwnn balch.

Am gelynion mwygl‐iownwawd

Is y ’nghuu yn ysu ’nghnawd.

Er i trapherth rhyferthwy

Syrthiassont todhassont hwy.

3Nid ofnaf dedwydhaf don

Er milwyr herwyr hirion.

O dymchwel rhyfel yr haf

Bythoedh Duw a obeithiaf.

4Keisiais gelwais ar geli

Vn swydh a dham vnais i;

Yw blas solas breswyli

Ora fwy fyw ae dyrfa fo;

I weled i deml wiwlun

Gweled i laned ae lun.

5Ymgudhiaf llechaf lloches,

Iw gysgod ef ir net nes.

Pann dhel blinfyd gyd gadav

Yn i babell ae gell gau.

Yno y kyfyd byd ae barn

Goreau y kaid fi tw graig kadarn

6Kyfyd fymhenn o kofiwch

Vwch gelynion trymion trwch.

O ffrymaf i naf o nenn

Borth loew‐wych aberth lawen:

Im naf mi a ganaf a gwawd

Waith hyfedr tant a thafawd:

7Gwrendy fy llef dwyllef don

O drugaredh dro gwirion.

8Archodh fynghalon son serch

Geisiaw dy wyneb gwiwserch.

Yno keisiaf rhwydhaf rhi

Dy wyneb a daeoni.

9Tro d’olwg tyred eilwaith

Attaf arglwydh mowrlwydh maith.

Na wrthod wirnod eurnef

Dy was ith lid dwyswaith lef:

Duw ’ngheid wad lownrhad i law

Hybarch na fwrw fi heibiaw.

10Mam a thad mamaeth wedi

A gwarth dig im gwrthod i:

Diwair yw hynn dydi a rhad

Etto am tynni attad.

11Dysgi y mi y dasg mav

Diwael ebrwydh dy lwybrav:

Y gwastad ffyrdh gwiw ystig

Rhag gelynion duon dig.

12Nam gosod hynod yw hynn

I gilwg wrth fodh gelyn:

Kans yn ferbyn hyn sy hawdh

Y geudyst oll a godawdh.

Ag im treisio keisio kau

Kwilydhus ae kelwydhau.

13E gaiff weled drwy gredu

Fy enaid koeth f’unduw ku:

Ae ogoniant yw gynnal

Yn-hir y bowyd yw ’nhal.

14Aros ar naf hoewaf hawl

Yn i wrthiau yn nerthawl:

A gwir ffydhlonn fronn freinniau

Aros ar naf medhaf mau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help