Psalmau 5 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y bumhed Psalm. Englyn Vnodl Vnion.

1GWrādo ’n rhwydh, arglwydh evrglod, — ing arvthr

Yngeiriav am tafod;

A de vall walch gloewfalch glod

O fowrder fy myfyrdod.

2Erglyw ’nghri, keli, ni’s kelafrinwedh

fy mrenhin a gar af:

fy newin. at fy nvw naf

A gwedh awen gwedhiaf;

3Y borav gorav a garaf vndvw,

A wyr wrando arnaf

A Dvw ’n wir siarad a wnaf

Y borav golav galwaf.

4Nid ydwyd gwelwyd geli wych iownwaith,

chwannog i dhireidi:

ni thrig gidag vn a thri,

Drwy gynnal dim drygioni.

5Bwriaist atgas ga, a gwg ior waethwaeth,

Ar a weithio mowrdhwg;

Nid erys ffol yn d’olwg

Yn wael e dry a wnel drwg.

6Kewydhawg y rhawg be rhôn — y lledhyt;

Ras gennyt cais gwynion:

A wnel dwyll annvwiol don,

Ar kwerylwr wr crevlon.

7Fy Naf ith dy ’r af diryfedh dy rad;

Drwy gariad drvgaredh:

Yn y deml sant melys wedh

Y rodiaf ag anrhydedh.

8Arwain fi evrglain Arglwydh goel iownwych,

Rag gelynion aflwydh;

Disgin ior hael dysg yn rhwydh

Dy lwybrav diwael ebrwydh.

9Yw genav ond gav nid oes gair kyfiawn,

Kofvs yw pob drygair;

Ag oe mewn digymennair

Bryntion i kalon y kair:

Y kegav geiriav garwedh o gyrrith,

fal agored henfedh:

Ae tafod mal tyfiad medh

O-ffol edryd a ffladredh.

10Rain geli ytti gwnn etto yn llwyr,

I lladh ae dinystrio:

Gad yw kyngor drvdior dro

Yn i serthedh i syrthio.

Bwrw allan yn lan nad ith wledhryfyg.

wrth rifo i hen wiredh:

Ith erbyn ner wiwner wedh

Y traetvriant trwy i taeredh.

11Mawr lawenydh sydh ir sawl, dhvw yttwyd

A dhaw attad ollawl:

Canant a fedrant o fawl

Drwy gywydhav’n dragwydhawl.

Vn Duw oad kodiad ae ked wi ’n llawen,

A llywiant gwrhydri:

A garo, mae ’n rhagri

O Dvw ne doeth dy enw di.

12Bendigi geli glav dhawn kofus,

dhyn kyfion diammav:

Ath ras oe gwmpas i gav

fal tarian or folt orav.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help