1Cân ir arglwydh rhwydh yn rhad
O gynnal newydh ganiad:
Cans fo wnaeth yn ffraeth ffrwythiad rhifwch
Bethau rhyfedh mowrstad.
Ae law yn gweithiaw heb gel
Ae fraich santeidh-fawr vchel:
Parodh a mynnodh Emanuel dewrwych
Iechydwriaeth dhirgel.
2Iechyd a’n bowyd in bodh
Yn ysbas ŷnn ysbysodh:
Cyfiownder gwydher datgudhiodh eilwaith
Yngolwg pawb mynnodh.
3Trugaredh gwiredh yw gael
Râs-rann cofiodh ir Israel:
Terfyn daear war nid yw wael vchod
Gwyl iechyd yn Duw hael.
4Cen wch ir Arglwydh cynnwys
Yn llafar y dhaear dhwys:
Cenwch gwên lawen yn lwys llai ofal
Llefwch hyd baradwys.
5Cenwch in ner hoewder hynn,
Ydolwg gida ’r delyn:
Eida ’r tant moliant fo ai mynn yn llafar
Y llefwch i Dhuw gwynn.
6Cân yn llafar hygar hed
Gân ir Brenin gogoned:
Ag vtgyrn cedyrn yw i cêd ae swn
Gida sain y trwmpet.
7Rhued mor dued mawr dô
Swydh hen-dhull ag sydh yndho:
Ar byd rhai ennyd y sy’n trino i far
Ag oe fewn yn trigo.
8Cured iowngrair llifeiriaint
Eu dwylaw ’n aelaw mewn naint:
Cyd‐gâned sonied fal saint mae’n adhas
Mynydhoedh yn gywraint.
9O flaen f’arglwydh gwiwiwydh gwar
Dhuw daeth i farnu dhaear:
Yn gyfiawn vniawn iownwar o burnerth
Y barna bawb a gâr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.