1Buost Arglwydh rhwydh fawrha
Ber sylfaen ŷn breswylfa:
O genedlaeth helaeth hir
I genedlaeth gain hoedl‐hir.
2Cyn gwneuthur mann na llannerch
Or byd y sydh hyfryd serch.
Di hefyd Duw oedhyd dad
Awch rywiog or dechreuad.
3Dinystri dwedi dadôn
Dionestrwydh dyn effron
Dychwelwch gwelwch gilwg
Feibion y dynion ae dwg.
4Mil o flynydhoedh moli
Ail doe yw yn d’olau di.
Fal gwiliad nôs vwch ffôs ffô
Yn rhybell ân (ior) heibio:
5Wrth i gwasgar bar bwriynt
Cymwl neu lun hun eu hynt.
6Y borea y blodeua
Ag yn newydh dhedwydh dha:
E dorrir yn wir bryd nawn
A gwywa y mysg i gowiawn.
7Yn dy dhig hwnt a dhygi
Duw nef y difethwyd ni:
Yn dy lid nôdol ydwyd
Obru in oes braw yn wyd:
8Rhoist ger dy fronn wirion wedh
Yn aruthr yn anwiredh:
Dirgêlbechodau.
Ger bron yn
Tmesis
dirgel (gwelir)
Bechodau yn olau ’n wir.
9Darsu ’n dydhiau mawrhau r haint
Oth gofiaw ith dhigofaint:
Treuliwn yn oes fowrloes fydh
A llef oer fal lleferydh.
10Deng-mlwydh a thrugain gain goedh
Yn-nydhiau, yw ’n blynydhoedh:
O cyraedh gwr kyflwr cain
Bid ragor bedwar vgain,
Poen yw i nerth serth dan sêr
O bwl wendid a blinder.
Boreu-dhydh derfydh y daith
Dann ammod hedwn ymaith:
11Pwy a edwyn pa oedi
Oth blant, nerth dy soriant di?
Fal dy ofn yn chofn ner
Dhi-wag-taith yw dy dhighter
12Dysg yn rîf gyfrif nid gau
Oud yw wedhaidh yn dydhiau:
Deuallon a’n calonnau
Ddoethineb rhwydhdeb fawr-hau.
13Dychwel Arglwydh rhwydh fy rhi
Oes hir pa hyd y sorri?
Bydh rywiog drugarog ion
Dewisair wrth dy weision:
14Llanw ni’n forau gorau gwedh
Drwy gywiro ath drugaredh;
Llawenydh a fydh yn fau
A didhan yn holldydhiau
15Cimeint fydh llawenydh llonn
A’n cystydh gerydh geirwon.
A’r blynydhoedh kyhoedh kyd
Dhi-rywiog-faith o dhrygfyd.
16Gweler dy waith symlwaith son
Doeth eusoes du ath weision:
Ath odidowgrwydh rhwydh-wych
Tu ae plant a gwarant gwych.
17Bydhed prydferth nerth yn ior
Dha gof arnam dhygyfor:
Trefna weithred trwydhed from
Dal iawn yn dwylaw ynom
Duw trefna trwsia bob tro.
Y dolwg waith yn dwylo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.