1Cenwch ir Arglwydh cynnar
caniad newydh vwch gwydh gwar;
Cân i Dhuw kùn y dhaear.
2Cenwch ir ner cu waneg;
Bendithiwch dwedwch yn deg
Treuthwch i enw ond tratheg.
3Cenwch chwedl ’mysc cenedloedh
I ryfedhod wiw-nod oedh;
Beibltaith ymhlith y bobloedh.
4Vwch Duwiau rhad ofnadwy
Am oll nid oes arglwydh mwy
Mael ydyw a chanmoladwy.
5Cans of a wnaeth y nefoedh:
Eulynnod gwrthod ar goedh;
Heblaw yw Duwiau ’r bobloedh.
6Mowredh oe flaen a wedha
Yw seintwar nerth dwysnerth da
O dhiwedhdraul gwedheidhdra.
7Rhodhwch ir arglwydh lwydhiant;
Rhowch bawb sydh rhowch bob sant,
Ae gynnal nerth gogoniant.
8Ag yw enw rhowch ogoniant
Aberthwch bloedhiwch i blant;
Dirgelwch Duw ior gwiliant.
9Mewn prydferth wraidh santeidhrwydh
Ofnwch dhaear loewgar lwydh;
Rhowch nod eurglod in arglwydh.
10Dwedwn chwedl mysg cenhedloedh
Teyrnasu mae Duw cù coedh,
Oe swcer bid siccr y bydoedh,
Nid oes gwg nad ysgogo;
Y bobl yn gadarn a farn fo
Yn vnion da gwnn yno.
11Ir dhaear ol gorfoledh
Llawenydh sef wiwnef wedh
Y mor rhued a mowredh.
12Ynilled ras y glas-wydh
E gân y prenniau a gwydh;
13O flaen yu Duw caiff lonydh:
Am dhyfod hynod heiniar
Am i dhyfod gwiw-nod gwar;
Wiw Dhuw i farnu y dhaear
Barn yn vniawn gyfiawnedh
Am waith ir bobl ae medh,
Eranna i wirionedh.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.