Psalmau 50 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y L Psalm. Vnodl kyrch or hen ganiad.

1Duw r duwiau arglwydh llafar

Dowad galwodh holl daear

O gyfodiad haul beb hud

Hyd i fachlud klaear.

2O Sêion dirion dyrau

Perffeidhrwydh glendid golau,

Yr arglwydh ymdhanghosawdh

A thywynnawdh i ninnau.

3Duw a dhaw veb dhistewi

A than oe flaen yn llosgi:

A rhyferthwy demstl mawr

Nef a llawr yn todhi.

4Ef a eilw y nefoedh

I dhwyn tystion ar gyhoedh:

Ar oll dhaear vn duw ku

Pann el i farnu ’r bobl[o]edh.

5Gwelwch (medh ef) drwy fowrnerth

Kesglwch fy saint yn brydferth

Y sawl a wnelo amod

Trwy dhygymod ag aberth.

6Ar nefoedh oll a draethan

I gyfiownder drwy dhatgan:

Kans yr arglwydh ydyw ’r gwr

Y sydh farnwr i hunan.

7Gwrandewch bobloedh daearawl

Mi a dystiolaetha ’n hollawl:

Degle Israel wyf dy Dhuw

Sef dy wirdhuw nefawl.

8Ni rof gerydh i tithau

Am na wnaethost aberthau:

Ag ni cheisia fi pe kawn

Offrwm nawn a borau.

9Dy eioionnau ni cheisiaf

Na ’r a[f]r na ’r dhafad frasaf:

10Holl nifeiliaid mynydhoedh

Ar fforestoedh a fedhaf.

11Myfi a adwaen beunydh

Yr holl abar or mynydh:

Ar alfeiliaid gwyllt a gwar

Y kwbl ly ar y mynyoh.

12Os newyn a dhaw arnaf

Wrthyti nid achwynaf:

Myn piau yr holl fyd

Y kwbl i gyd sydh danaf.

13Kig y teirw nis bwytaf

A gwaed y geifr nis yfaf

14Offrwm toliant i Dduw draw

Tal adhaw ir goruchaf.

15Ga[l]w di arnaf mewn amser

Pann dhel trallod a blinder

Miath achvbaf a thydi

A’m gogonedhi ’n syber.

16Wrth rai drwg Duw a dhyfod

Pam y traethi nygymod?

Pam y kymri yn dy benn

Fal pe sonn fy nefod.

17Dy gospi a wrthodaist

Am geiriau a skevlusaist

18A ffob lleidr brynta gwr

A godinebwr rhennaist.

19Roist dy enau ar frynti

Ath dafod ar dhrygioni

20Yn erbyn dy frawd vn‐fam

Pob rhyw gam a dhwe di.

21Gwnaethost hynn tewais innau

Tybiaist fy mod fal dithau

Mi a wnaf arnad dhial kaeth

A llywodraeth weithiau.

22Ystyriwch hynny etto

Sawl sy ’n gollwng duw ’n angho:

Rag ymy’ch lladh yr owrhon

Heb ohynion ach gwaretto.

23Sawl a offrymo ym foliant

Ag vrdhas a gogoniant

Ag a rodio ’n iawn ir byd

Fo gaiff iechyd a llwydhiant.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help