Psalmau 15 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y Psalm. XV. Kyhydedh Wyth Ban.

1Duw, pwy ith blas oth ras rysswr

A bras olud fydh breswyliwr?

Dewin isod a dinaswr

Yn dy dhedwydh fynydh fwynwr?

2Sawl a rodio yno yn iownwr

A fynno fod yn gyfiownwr:

Nod koel adhysg nid kelwydhwr

Yn i galon enwog wiliwr.

3Sawl oebarabl nid yw gablwr

Anoeth reswm gwael na threisiwr:

Yw gymydog nid halogwr

O enw absenw nag absennwr.

4Ond yr adyn y citeidwr

Ywolwg ef y sych waelwr:

A garo Dhuw yn gowirwr

Rad adhysg mae ’n anthydedhwr.

O rhoe i lwi at hawl i wr

Ag oll wedi pe yn golledwr:

Ni newidiai yno yn oedwr

Vn dickra gwnn nad ockrwr.

5Nag yn frebwl nag yn freibiwr

Am vn gwirion y mae ’n garwr:

Hwnnw awnel hynny anwaelwr

O deg weiniaith fydh digynnwr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help