1Tydi arglwydh gwiwrwydh garaf
O fawr hoewgerdh a fawrhygaf:
Kwnnaist rhag kwynion
Vwch law vchel ion
Gelynion gwael anaf.
Nid ydynt draws oernaws arnaf.
2F’eurgledh kroewior f’arglwydh kraf
Arnad o oernych.
Rhodhaist yn rhwydhwych
Fi o nych Duw fy naf.
3Arglwydh dygaist gwiliaist gwelaf
Or bedh fenaid wiwraid araf:
Wyf syw byw heb au
Rhag a el gel gau
Ir pyllau, lawr pellaf.
4Kenwch y saint i Dhuw kanaf
Diolchwch a mawl diolchaf:
Weithian gân gynnes
Yw santaidh wraidh wres
Im kyffes mi ae koffaf
5Byr y trig i dhig a dhygaf
Oe fodh bowyd gwiwfyd a gaf:
Wylaw nos lawn wydh
Bu rwydh boreudhydh
Llawenydh or llownaf.
6Ag im gwnfyd diwyd dwedaf,
Nim kynhyr[fi]r gwir a garaf:
7Oth olud gwnaethost ath alaf
Im gadernid rhydid rhodiaf:
Bu enyd boenus
Gudh devrudh dirus
Drwy vstus bum dristaf.
8Eurgledh llafar arglwydh llefaf
A gwaedh awydh Duw gwedhiaf:
9Pa les sydh dan draed o gwaedaf
Ir bedh gannwedh o disgynnaf.
Oes mawl is y min
Yt hawl at hwylwin
Or pr[i]dhin ior prudhaf?
A Dreuthir dy wir ior dewraf?
10Gwrando dyuer eurner arnaf:
Trwy gur trugaredh
Gwared fi a gwiredh
Oferedh a fwriaf.
11Troist fy llafar galar gwelaf
Ir llawenydh Duw or llownaf:
Rhydh Dhuw im rhodhwch
Disengi im kenglwch
Digrifwch Duw gryfaf.
12Ag am tafawd maelwawd molaf
Di yn hoff wiwdeg Duw ni ffeidiaf:
Fy nuw fy newîn
Dybryd yt dibrin
Eginin mawl ganaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.