1Gwynn i fyd enhyd a vnion rodio
Yn gariadol ffydhlon:
Yn-nedhfau Duw nodhfa dôn
Yn hêr ae lwybrau ’n burion.
2Gwynn i fyd i gŷd a gadwo ’n deilwng
I dystrolaeth dirion:
Ae keisio ef tecka son
Ae goelio ae holl galon.
3Ni weithia i waetha weithion ni wyra
Mewn anwiredh digllon:
Sawl a rodio llwybro llonn
O gariad yw ffyrdh gwirion.
4Gorchmynnaist mynnaist ymy ion gwedi
Gadw dy oll orchmynion:
Yn dhiofal dyfal don
Wyth‐oes ae karu weithion
5Damunais keisiais kyson dhewisgall
Dhysgu ’nthaed yn fodlon:
I gadw yn beraidh wreidhion
Dy status felus hyd fôn:
6Wyf o gysur pûr pêrion yw d’adhaw.
Ni’m gwradwydhid weithion:
Pann edrychwyf rhwyf pe rhôn
Ymannos d’oll orchmynion.
7Mola ’r arglwydh rwydh i odhion o fendith
A chyfiownder dwyfronn:
Pann y dysgaf teckaf tôn
A gofal dy farn gyfion.
8Kana ’n Ffraeth helaeth hylawn nis dowtiaf
Dy status gyfreith-lawn:
Na’m gwrthod nâf eithafiawn,
Yn hwyr ior nag yn hir iawn.
BETH. Yr ail rhann. Proest Kyfnewidiog.9Pa welliant diludhiant lwyth
I dhyn ienanck ffromlangk ffraeth?
Trwy ochel diogelwaith
Yn ol gair Duw diwair doeth.
10Mi ath geisiais dan fais yn fŷw,
Am Kalon loewfron yn lew,
Na ad imi ymadaw
Ath orchmynion gwchion gwiw.
11Kudhiais draw d’adhaw didhan
Ammau kilwg im kalon:
Yn hôff achos na ffechwn
Ion diweirbarch yn d’erbyn.
12Dedwydhawl ydwyd wedhaidh
Diweirglod o Duw arglwydh:
Dysg ymi o dasg ym oedh
Dy berffaith gyfraith heb gawdh.
13A’n gwefusau ’n gof eusees
Duw yno nid yw anhaws:
Am genau mi a genais
Dy gadarn loew-farn yn lwys.
14Difyrrach dioferwaith
I minnau dy lwybrau lwyth:
Yn dy rasol dystiolaeth
Yn iach hyfedr na chyfoeth.
15Myfyriaf yn hoewaf hardh
Dy orchmynion gwirion gwrdh:
Ystyriaf gweithiaf ar gerdh
Vn-duw hoff iawn yn dy ffyrdh.
16Difyrrwch kenwch kennyf
Dy status wedhus adhef:
Yn llaw angel ni ollyngaf
Yn ing dy air yn angof.
GIMEL. Y III. rhann. Vnodl krwcka.17Bydh garedig heb dhigis
Wrth dy was drwy vrdhas dro:
Byw fydhaf hoewnaf heno ein keidwad
Kadwaf d’air heb ffaelio.
18Pâr im llygaid grych-naidiaw
Yn agored fal llêd llaw:
Kaf ar led weled eiliaw deg wiwfraint
Dy gyfraith yn hylaw.
19Ar dhaear i wedhïaw
Odhiwrth drwch wyf dhierth draw:
Nad wedi gweidhi gudhiaw i minnau
Dy orchmynion mangaw.
20Mae ’nghalon a’m bronn a braw
Yn torri heb hwnt tariaw:
O chwant a llesiant wllysiaw dy farn
Ydwyd fowrner difraw.
21Bwriaist a llêdaist a llaw
Ba weilch oedh yn balchiaw:
Melltith ir swil sy ’n kiliaw meinwr
Rhag dorchmynion aelaw.
22Kywilydh dirmig hwyliaw
Symmyd ior os ymy daw:
Dy dystiolaeth ffraeth ffrwythaw yn gadarn
A gedwais i yn dhistaw.
23Dy was hael sy ’n trafaeliaw
dy status drefnus draw:
[T’]wysogion dhigon a dhaw ae siarad
Suredh im kyhudhaw.
24Fym-hleser dyner lle daw
Duw wyd eustus dy dystiaw:
Kynghorion doethion da weithiaw didhig,
Da oedhent ym athraw.
DALETH. Y IIII rhann. Proest Kadwynodl.25Glynu y mae ’r golau enaid
Yn y llwch yn drwch dan droed:
Gwna fi yn fyw im rhyw rhaid
Yn ol dy air diwair doed.
26Traethaf fy ffyrdh ond tratheg
Gwrandewaist ni dhwedaist dhig:
Im yn hydhysg dysg yn deg
Dy status, heb rûs or brig.
27Pâr ym dheuall kall nid kudh
Yn dy dhedhfau gorau gwedh:
Myfyriaf fy nâf am nûdh
A rhifaf dy waith rhyfedh.
28Todhodh fenaid serth-naid sôn
O drymder bryder heb rann:
Kyfod fi Arglwydh Kyfion
Ar ol dy air, gloew-grair glân.
29Tynn fyfi geli heb gêl
O dhig ffordh gelwydhog ffôl:
Dysg dy gyfraith mwyn-iaith mêl
Yn ior isod yn rasol.
30Detholais y daith wiwlan,
A gwirionedh hêdh yw honn:
Y farn enwog surn anian
Wir im a rois ger y mronn.
31Deliais a glynais yn glir
Dy dystiolaeth bur-ffraeth bêr:
O Arglwydh ag arwydh gwir
Wyd eidhof na’m gwradwydher.
32Rhodiaf a rhedaf fy rhann
Ymannos yn d’orchmynion:
Pann helaethych gwych o gân
Ynghu olud ynghalonn.
HE. Y V. rhann. Vnodl Kyrch.33Dysg ym lwybr hylwybr haeledh
Dy status medrus ae medh:
Diau fyth kadwa o fael
Duw diwael hyd y diwedh.
34Dyro ym dheuall kall deg hêdh
Kadwaf dy dhedhfau kydwedh:
Dsâu hir y kadwaf honn
Im kalon mwya koelwedh.
35Dysg lwybrau gorau gwiredh
D’orchmynion mwynion ae mêdh:
Mae yndhynt trwy hynt nid trwch
Fy-nifyrwch fwyn fowredh.
36Plŷg fynghalon dirionwedh
Ith dystiolaeth wiw-ffraeth wedh:
Mewn kybydhdra gwaetha gwaith
Om oerwaith nâd ym orwedh.
37Tro fy llygaid hoe wnaid hedh
Dhierth wg odhiwrth wagedh:
Yn dy lwybrau gorau gwŷn
A chychwyn fi ’n iach wchedh.
38Gwastata yna annedh
Dy wâs ag vrdhas yw ’r gwedh:
Drwy d’adhaw gwrandaw i gri
Y mae ’n d’ofni mewn dyfnedh.
39Tynn sarhaed yn siwr hud-wedh
Ofni imi kynn fy mêdh:
Dy bûr-farn ry-gadarn ri
Daeoni ydyw vnwedh.
40Chwenychaf o kaf deg hêdh
D’orchmynion pêrion puredh:
O nerthi Duw tri yt rhaid
F’enaid yn dy gyfiownedh.
VAV. Y VI. rhann. Deuair hirion.41Ag o râd yn garedig
Arglwydh da tro yma trig:
A’th iechyd trwy wnfyd traw
Eiriol dydh ar ol d’adhaw.
42Felly ’r attebaf well‐well
Im absenwyr kablwyr kell
Kans ymdhiriaid fenaid fâb
Yn dy air vn duw arab.
43Na chymer d’air mowrair mau
Grym gynnal gwir o’m genau:
Waetia fi gwedi ’n gadarn
Mwya Duw fyth am dy farn.
44Yno kadwaf mwyaf mawl
Gwiwdhuw dy dhedhf dragwydhawl.
45Kerdhaf rhodiaf mewn rhydid,
Keisiaf dy dhedhf ledhf heb lid:
46Dy dystiolaeth a draethaf
Wrth frenhinoedh nefoedh naf
Arnaf ni fynnaf ni fydh
Na chelu na chywilydh:
47Mae nifyrrwch mwyn fowredh
Yn dorchmynion wchion wedh.
Dyna rai odhi dann yr ais
Hyffordh erioed a hoffais.
48Mi a godaf mwy gwedi
Annwyl iawn fy nwylaw i.
At d’orchmynion loewon lais
Rhann gwir y rhain a gerais:
A myfyriaf mwy fowredh
Yn dy gyfraith hoewfaith hedh.
ZAIN. Y VII. rhann. Deuair fyrion or hên ganiad.49Koffa d’adhaw
wrth dy was draw:
Peraist vdhynt
Ymdhiiaid gynt.
50Hynny yw ’mhleser
Mewn tra blinder
Dy adhaw da
Am llonhycha.
51Y beilchion fu
Im gwatwaru:
Ni throis vnwaith
Dhiwrth dy gyfraith.
52Koffais dy farn
Gynt duw gadarn:
Hynn wrth fy modh
Am kysurodh.
53Ofnais yn wir
Dros dyn anwir:
Sydh yn gwrthod
Dy dhygymod.
54Fyngherdh felus
Yw dy status:
Yn fy-nhûy tlawd
Pererindawd.
55Dy enw koffais
Duw kynn hunais:
Kedwais yn faith
Duw dy gyfraith.
56Hynn oll hoew-nâf
Kefais kofiaf
O gadw gwedi
Dy adhaw di.
CHETH. Yr VIII. Cowydh llosgyrnog.57Fy rhann ydwyd fawr enwedig,
A bwriedais yn buredig
I gadw orig dy eiriau.
58Duw manwl yn d’wydh damunais
Dy drugaredh Duw dir gerais
Doe adhewais da dhiau.
59Ystyriais fy ffyrdh naws tirion
Trist fu ’n vn‐nos troist fi ’n vnion
Weithion ith dystiolaethau.
60Brysiais nid dedais nod vn-dydh
I gadw d’orchmynion sal gwowdydh
Bevnydh thag ym beenau.
61Er bod llu drel yn fy steliaw
Ing hefyd nid wy ’n d’anghofiaw,
I weithiaw dy gyfreithiau.
62Am hanner nôs am hynn iôr nêr
Diolchaf codaf rhag hyder
Fowr-ner o’th gyfion farnau.
63Wyf gydymaith goel-waith gweli
Iaith dhytnach a phawb ith ofni
Mynni gadw d’orchmynnau.
64Llawn yw ’r dhaear gwâr ag erod
O’th drugaredh hên-wedh hynod
Isod ith ystatusau.
TETH. Y IX. rhann. Owdl gowydh.65Rhennaist dy râs ior hynod
Ith was o glôd ath dhysg lan:
Ar ol dy air reiol daw
Dy adhaw diwair didhan.
66Dysg yn ffraeth wybodaeth bêr
Y farn dyner fry ’n d’anian:
Credais d’orchmynion kroew daith
Yn fwya rhaith, yn fy rhann.
67Kynn fynghosbi trosi trô
Ar dhidro bum rydh oedran:
Kadwaf oll mwyaf kêd fu
O draethu dy wir weithian.
68Wyd rasol reiol heb rûs
A daeonus dy anian:
Dy status felus foli
Honno ymi dysg yn y mann.
69Y dynion beilch gweilch i’m gwydh:
O gelwydh i’m mygylan:
Kadwaf am kalon fron frau
Dy eiriau o tuw eirian.
70I kalonnau a gau gynt
Tewion ydynt ni wâdan:
Dy dhedhf yw’mhleser da dhysg
Iawn adhysg hynn a wydhan.
71Da i mi fynghosbi fynghig
Wych orig ath law chwarian:
Dy status felus a fu
I dysgu gallaf dwys-gan.
72Gwell yw geiriau d’enau di
Ymmi Duw nid ammod wann:
Na miloedh aur gyhoedh gŷd
O deg wryd ag arian.
IOD. Y X. rhann. Toddaid o XIX. sillaf.73Dy dhwylaw hylaw haelaf am lluniawdh
Dydi am kreawdh dynawdh Duw naf:
Dôd dheall dwysgall dysgaf d’orchmynion
Ath eiriau tirion vnion hoewnaf.
74Chwardhant a’th ofnant iaith dhyfnaf dyner
O gael gowir-ner golwg arnaf:
Am ymi leni lownaf ymdhiriaid
Diwair y gweiniaid d’air a ganaf
75Yn vnion kyfion kofiaf dy iown-farn
Honno sy gadarn hynn nis gwadaf:
O ffydhlonder nêr yn araf syber
Peraist ym flinder mwynder mendiaf.
76Ag oth gariad rhâd rhodiaf yn eglur
Pâr ym dy gyssur ior pûr pêraf:
Ar ol d’air pêr-air puraf ith weision
Dy adhewidion Duw a dhwedaf.
77Gyrr yno etto attaf drugaredh
O bai vfudh-wedh byw a fydhaf:
Fynghalon vnion iownaf i’th status
Yn vchel wedhus ni chwilydhiaf.
Yn dy gyfraith faith ni fethaf vn‐nôs
Yn llon oe hachos llawenhychaf:
78E fydh kywilydh koeliaf ar feilchion:
Lle drwg‐weithiasson goelion gwaelaf.
Myfyrdawd tafawd tyfaf i’m kalon
Yn dy orchmynion mwynion mynnaf:
79Dy blant ath ofnant iaith dhyfnaf bobloedh
80Diwair iawn yttoedh a drôn attaf.
CAPH. Y XI. rhann. Byrr a thodhaid.81Ychenaid f’enaid gwae finnau duchan
Am dy iechyd dithau:
Mi a dariaf am dy eiriau
82Mae ’ngolwg pwl ar medhwl mau
Yn aros d’adhaw er ysdydhiau,
Yn dwedyd pa bryd Duw ior brau?
Pa bryd kof ennyd kaf innau ’n brysur
Dy gyffur deg oesau?
83Ail i groen chwsigen denau
Y krinais mewn mwg hir winau:
Dysgais a brysiais Duw ior brau
Dy status fodhus dhifadhau.
84Dowaid ith was rif diau i adfyd
A welyd yn olau:
Pa bryd ath farn gwnai wasarnau
O ’r sawl am erlio? bid heb au
85Y beilchion a glodhiodh y bylchau
Im byw oll a mwy o byllau;
Nid yw hynn medhyn mewn modhau o rwyfc
Ar ol dy gyfreithiau.
86Dorchmynion gwirion yw ’r gorau,
Beilch im erlid gwelid a gau
87Ni wrthodais dy ledhf dhedhfau
Duw im porth kymorth rhag kammau.
Ar y wâr dhaear dheau a bygwth
Bu agos fy llesghau.
88Gwna fi ’n fowiog enwog wnniau
Ar ol dy gariad rhâd rheidiau,
Ag yn garedig fedhyg fadhau
Ym hap wych ydoedh om pechodau:
Dy dystiolaeth ffraeth ffrwythau yn gadarn
A gadwaf oth enau.
LAMED. Y XXII. rhann. Hir a thodhaid.89Dvw dy air kêdair kôdais i’r nefoedh
E bêry bythoedh draw oedh heb drais.
90Dy wir byth a bery hynny honnais,
Daear yw sail Duw erys a welais
91Dyd hedhyw ’n tario hirdro hwyrdrais.
Dy was ae piau golau gwiliais.
92O[ni] melyster pêr purais dy gyfraith
Sudhasswn yn faith kanwaith kwynais.
93D’orchmynion kyfion myfi ae kofiais
Yn fw i’m kodi om kuli koeliais:
94Duw wyf eiohod hynod kadw fi honnais
Kans dy orchmynion kyson y keisiais
95Enwirtaid a gaid im lladh ar gais — rhuthr
Dy dystiau aruthr Duw Duw ystyriais.
96Y pethau gorau gwiriais ar dhaear
Trwy ofn a galar eu terfyn gwelais.
MEM. Y XIII. rhann. Kyhydedh wyth-bann neu gyhdedh ferr.97Kerais dy dhedhfau ku eiriel
Honno a studiaf yn wastadol,
98A’th orchmynion mwynion manol.
Gwnaethost fi ’n iach dhoethach dhethol
Na’m gelyniō mawriō marwol
99Deuellais hwy a mwy i’m ôl
Na’m athrawion am waith reiol.
D’air myfyriaf araf wrol
100Mwy na’r hên deuellais mewn rhol.
O gadw dy gyfraith gêdol
101’Yn-rhaed kedwais angenrheidiol,
Oe dryg-ffyrdh gwyr di-rowiog-ffol.
102D’eirian kadwaf yn awdur[io]l
Nis trois oth farn naws treiffol.
103Tydi a’m dysgaist, Duw tadol:
Melys draw d’adhaw dedwydhol
Melys a dâ fal mêl is dôl.
104Man dhenall kefais am dheol
Llwybrau kas‐dhynion ffeilsion ffôl
Hynod a gwrthod i gwrthol.
NVN. Y XIIII rhann. Kyhydedh naw bann.105Yn llugern im troed duw doed dy air
I’m llwybrau ’n olau dy anwylair:
106Y kadwn tyngais dihokedair
Dy farn dog wiwlarn ar dy gyfair.
107Wy ’n dartod dwysglod arglwydh disglair
Dod fi ’n fyw eilwaith da waith dy air
108Derbyn fy aberth digerth a gair
Dysg dy tarn yn gall deuall diwair
109Wyf ymronn angau pynnau poenair
Ni chollais dy faith gyfraith bob gair
110Er maglau dufryw rhai amwair
Ni chiliais oth dhedhf wych lês ath air.
111Yn f’yfedhiaeth yn ffraeth firwythair,
A llawenydh llonn i’m kalon kair
112Plygais ynghalon vnion iownair
Ar ôl dy status felus fawlair,
A hynn hyd dhiwedh kallwedh kellwair.
SAMECH. Y XV. rhann. Cyhydedh wendrosgl neu gyhydedh hir.113Kas-hais llais llonn
Magiad dychmygion
Ofer yr ow[r]hon iry a wiriaf.
Dy dhedhf ledhf lan
114Wyt ior a’m tarian
Yn wiwdeg ei rian, duw a garaf.
I’th air, rhadair rhaid
Oedh orau ymdhiriaid
Achub[w]r f’enaid kannaid kanaf.
115Y rhai drwg rhy drwch
Gwaelion mogelwch
I dhedhf os kedwch hedhwch haedhaf:
116Yn wastad rad draw
Diohan fal d’adhaw
Heibiaw bai feidhiaw byw a fydhaf:
Na thyn mynn ior maith
Gwbl oll om gobaith
117Attal fi vnwaith wyt hael fwynaf.
Diogel digon
Pleser llownderllon
Iaith dhiwair fodhion ith air fydhaf.
118Sethraist gwesgaist gant
Gwaelion a giliant
Oth air ath warant vthrwaith araf.
Oferb wyll dwyll dig
119Tynnaist kuraist kig
Du yw wenwynig dyn ae anaf.
Ir dhaear wâr wych
Dy dystiaw draw drych
Im hoen kowirwych am hynn karaf.
120Fyn hafawd ffawd ffydh
A grynn o grennydh
O ofn yn y-nydh fy nuw wiw naf.
Ofnais trais fal traeth
Dy farn gadarn gaeth
Duw dy ras bennaeth helaeth haelaf.
AIN. Y XVI. rhann. Cyrch a chwtta.121Nef eurner kyfion fernais
Na ad fyngorthrech damn ais
Trosof duw kûn damunais
Atteb o gyffowndeb lais.
122Ar dhawn ior Duw adhunais
Wyf d’wsnaethwr kyflwr kais
Na âo ir beilch trym weilch trâ
Y llaw ’n vcha lle nychais.
123Am dy iechyd klyd mae klais
A ffylu ’ngolwg ffaeliais,
Am d’adhaw gwiliaw ar gais
Ar ol dy râd eiriolais.
125Dy wâs (wyt dhuw) dewisais
D’orchmynion drudion heb drais,
Dôd ym dheuall gall gellwair
Dy air hynod a wiriais.
126Madws o Arglwydh llwydh llwyd
Help gwaith bêr affaith broffwyd,
Dy status astrus dinystriwyd
127Vwch aur d’orchmynion gwych wyd
Ker ais vwch pur-aur kweiriwyd
128D’union orchmynion yw ’mwyd
Ag lle gwelais kashais sôn
Ffyrdh ffeilsion oer-son arswyd:
PE. Y XVII. rhann. Clogyrnach.129Dy dystiaw rifaw sydh ryfedh
Fy enaid ae keidw ’n gyfannedh.
130Dechreuad mad man
Gwelwyd mae golan
Ith eiriau ath wiredh.
Deuall ir syml rhydh kynn diwedh
131Egorais cnau gowiredh,
Awydh dedwydh dôn
Kerais kowirion
D’orchmynion drych mwynwedh.
132Duw edrych gyrrych drugaredh
Ymmy oth arfer dhiom wedh
A’r sawl hawl hwylwych
A gâr gowirwych
Rhifych dy enw rhyfedh.
133Gwilia ’nghamrau i’th eiriau ath hedh
Nim meistrolir drwy anwiredh
134Gwared fi rhi rhîn
Rhag gorthrech trêch trin
Drwg werin drwy garedh.
Kadwaf d’orchmynion ae kyd wedh
135Dangos dhrych lewych olevwedh
D’wyneb da vnion
I’th oes ith weision
Yw holion o haeledh.
Dysg im dy status wedhus wêdh
136Wylaw ’r ydwyf rhag dîaledh,
Ni chad want blant blin
Dy gyfraith faith fîn
Ail erwin alar-wedh.
TSADDI.Y XVIII. rhann. Gwaedodyn byrr.137Wyd arglwydh kefnog enwog vnion
Ath farnedigaeth gofiaeth gyfion:
138Gorchmynnaist peraist pûrion dyst howdhgar
Gôf vnder gwâr gyfiownder gwirion.
139O duw lowned wyf foo d’elynion
Yn anghofiaw d’air yn anghyfion:
140Profu yo d’air pur-air perion ynt ollawl
Kowir dewisawl kâr dy weision.
141Dirmig gwael ydwyf dinwyf dynion
Nid anghofiais mynnais d’orchmynion:
142Tragwydhawl gwedhawl gwydhon a thyner
Yw dy gyfiownder duw nêr a’n ion.
Dy gyfraith sy wir, gwelir goelion
143Daeth arnaf adfyd blaenwyd blinion.
D’orchymyn er hynn henwon o flinder
Ydyw fymhleser bêr dyner don.
144Tragwydhawl nêr dy gyfiownder ion
Ath dystiolaeth helaeth i haelion
Dyro ’n gall dheuall wedhïon ith wâs
Byw fydh oth râs (kuras kowirion.)
KOPH. Y XIX. rhann. Gwaewdodyn hir.145A’m kalon (kroew-ion) arnad kriais
O Arglwydh nef klyw fy llêf am llais:
Dy gyfraith kadwaf hoe wnaf honnais
146Ior vnduw golau arnad gelwais.
Achub naf kodaf kedwais yn helaeth
Dy bur dystiolaeth ffraeth a ffrwythais.
147Y borau flaenau a rag-flaenais
A gwedhi i’r nef arnad llefais:
O Duw ior eilwaith d’air a wiliais
148Y nôs drwy ochi naws edrychais:
Gwell na gwilwyr gwŷr a gerais puredh
Diwair am fowredh d’air myfyriais.
149Gwrando f’adhuned godhed gwaedhais
Yn ol dy gariad rhâd y rhodiais:
Deffro ti yleni diwael vnais
Yn ol dy farn gadarn nis gwedais.
150Mae y rhain rhy‐filain ar falais i gwaith
Yn bell oth gyfraith eilwaith wylais.
151Agos wyt Arglwydh dedwydh dwedais
D’oll orchmynion kowirion kerais:
152Er ystalm hirbell y deuallais
Oth wir dystiolaeth alaeth eiliais.
I bâra heb drâ heb drais anianol
Byth yn dragwydhol môdhol mêdhais.
RESH. Yr XX. Rupynt byrr.153F’adfyd gweli,
Gwared gêli, gariad gwiwlan
Ith gyfreithiau,
Gloew nosweithiau, glynais weithian.
154Di a’m gwaredi,
Dadleu gwedi, fy rhî o’m rhann
Gwna fi ’n fowiog
O waith rhowiog ath air huan.
155Iechydwriaeth,
O gamwriaeth nis kaêm wiwrann:
Dy statusau,
Gann eskusau, gwnn nas keisian.
156Mawr yw gwaredh
Dy drugaredh, Duw dewr gwiwran:
Dy farn fywiog
A wnai ’n rhowiog, fi ’n wr hoewan.
157Aml erlidwyr,
Ym a llidwyr, am wall lledwau:
Ni ochêlais
Iaith dost gwelais, oth dyst gwiwlan.
158Llidiais gâs-wyr,
A thresbaswyr, eithr yspysan:
Achos dwedi,
Draw nŷch wedi, d’air ni chadwan.
159Dy dhedhf karaf,
Ystôr araf, ystyr eirian:
Oth râd rhowiog
Gwna fi ’n fywiog, ag yn fuan.
160Dechrau kowir
D’air a glowir, drwy goel Ieuan
Iawn ir bydoedh
Dy iarn ydoedh, difurn idan.
SCHIN. Y XXI. Trybedd menaich.161Heb achos agos fowysogion
Yma ar ol oedion a’m erlidiodh;
Fynghalon vnion mewn ofn ennyd
O’th wiw ras hefyd i’th air a safodh
162Llawengrair i’th air ydwyf fyth ail
Vn a gai ysbail gormail gormodh
163Dy gyfraith gwiw-raith duw a gerais
A ffalsedh kas-hais wiw-drais adrodh
164Bevnydh ith iownfarn gadarn gyd-waith
Molaf di seithwaith faith ni fethodh
165Kaiff kâr dy gyfraith rodhfaith rwydh-fyd
Draw gwnn vwch hefyd drwg nichâfodh fodh.
166I’th iechyd rydyd ymdhiriedais
Dy dhedhfau kedwais dann f’ais dawn
167Dy bur dystiolaeth ffraeth a ffrwythwyd
F’unduw ku ydwyd fenaid kadwodh.
Kans yn orchestawl a hawl hylaw
Am i kowiraw mi ae karodh.
168Fy llwybrau sy ith wydh arwydh irion
Kedwais d’orch mynion vnion anodh.
TAV. Y XXII. rhann. Englyn milwr.169Delo f’achwyn am kwynion
Duw fry ir nef ger dy fronn
Dyro dheuall yn dirion.
170Ymannos fy namuniad
Ar ôl dy air diwair da[d]
Diwael wyt y dêl attad.
Wyd wedhus ar ol d’adhaw
Gwared fi o drom-ged drâw
Yn y mann rwy ’n damunaw.
171Molaf di am gênau melus
Pann y dysgych drych di-rus
Ys-da yttoedh dy status.
172A’m tafawd truth-wawd traethaf
D’orchmynion kyfion eu kaf
Ath air yn berffaith araf.
173Kymmorth fi ath law rhag ymwan
Duw de wisais gleewlais glan
Dy dhedhfau golau gwiwlan.
174O arglwydh herwydh hiraeth
Fymhl[e]ser a’m mwynder maeth
Yw d’air ath iechydwriaeth
175Ith fawl ion ith foliannu
Bio byw fenaid gannaid gu
Helpia ath farn im helpu.
176Fal oen oll kyfyrgollais
Wyf d’wsnaethwrkerdhwr kais
Kyfiawn dy dhedhfau kofiais.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.