1Derchafaf at nâf ar naid
Oll o agwedh fy llygaid:
Daw o r mynydh fron-wydh fry
Wyrth ynny gymorth enaid.
2Daw ’nghymorth am ymborth ma el
Dhwyfrodh o dhiwrth dhuw Israel:
Yr hwnn a wnaeth rhann yn wâr
Nef a daear naf diwael.
3Dy gamrau, gorau gariad
Yn ner i lithro ni ad:
4Ni hûna naf yna a farn
Vn-duw gadarn dy geidwad.
Wele a hwnn yw wely
Hoen yw fraint ni huna fry:
Ag ni chwsc a gwnn na châd
Hael geidwad Israel gwedy.
5Yr arglwydh hoewlwydh hylaw
Ydyw trig dy geidwad draw:
A duw gwaisc yw dy gysgod
Hoew aelod i’th dheheulaw.
6Yr haal nith lysg ar y rhôs
Y dydhiau ef yw ’r didhos:
Na llewyrch sêr na lleuad
Hynny ni âd yn y nos.
7Ein nêr a’th geidw duw a’n ion
Rhag pob drwg cilwg coelion:
Da ras e geidw ’n dy raid
Dy enaid vn duw vnion.
8Fo ’th geidw ein nêr rwydhder wraidh
Myned a dyfod mwynaidh:
O hynn allan hylan hawl
Yn dragwydhawl dro gwedhaidh.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.