1Yr arglwydh wiwswydh sy ’n teyrnatu;
A gorfoledhu; gwir fawl idho.
Llawen yw dwyram llonn daearoedh,
Llawer o ynysoedh llwyr iawn iso.
2Niwl a thywyllwch, llenwch a llid,
Mogelwch ofid, amgylch efo.
Ymae kyfiownder hoiwder rheidwedh
A Barn yw orsedh haeledh seilio.
3Y tân aiff allan oni phwyllir
Ynn a ennynir oe flaen yno:
I losgi yleni i elynion,
Oe amgylch dhynion hebon heibio.
4I luched ae fellt yn oliechyd
I lewyrchu byd ail arch y be
Daear o alar hynn a welodh
Ag yna ofnodh o fodh gwae fo.
5O flaen yn Duw byw hedhyw hoewdhydh
Fal cwyr tawdh mynydh gwydh ymgudhio.
Sef o flaen f’arglwydh gwiwlwydh galar
Ie ar holl dhaear hyll i dhuo:
6Ynefoedh i ras manegasant
I gyfiownedh sant warant wirio:
Holl bobl rwydh eilswydh hwy a welsant
I wir ogoniant ar agano.
7Gwradwydh i weision a dynion dig
Dhelw gerfiedig oerdrig arwdro:
O lanw gorfoledh i eulynnod
Duwiau mawr hynod rhydh fowrnod tro.
8Llonnfodh e glowodh Seion glaear
Merch Iuda dhaear iownwar yno:
Gorfoledh herwydh rwydh or radhau
Barnedigaethau bron deg weithio.
9Yn ner goruchaf hoewnaf heinia[r]
Yn dhigymar ar dhaear oedh o:
Dirfawr dyrchafwyd gwelwyd nad gau
Goruwch y duwiau, rhiniau rhanno.
10O cerwch f’arglwydh yn rhwydh a’n rhi
Cas bid dhrygioni ynni wnio:
Gweryd rhag drygdhyn ennyn wyniau
Ceidw ’n frau eneidiau saint ni wado.
11Heuwyd goleuni enwi vniawn
Iawn yw ir cyfiawn orau cofio:
Llawenydh a fydh gywir fodhion
Ir vnion galon ar a goelio.
12Y rhai kyfiawn llawn y llawenwch
A golau dydhiwch fowrglod idho:
Mawl yw santeidhr wydh o rwydh rodhwaith
A choffa eil waith ni chaiff ffaelio.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.