1Am genau byth mi a ganaf
Drugaredh her loewber lef
Mae ’n agos byth mynegaf
Wirionedh Duw Sylwedh sef
2Bythawl trugaredh medhaf
Adail fydh yn wydh ir nef.
Cadarn ion dy wirionedh
Ni fu i fath i nef ni fydh
3Gwnenthym ammod hynod hedh
Am dewis dyn madws dydh
Tyngais da gwelais deg wedh
Oes difai im gwas Dasydh.
4Yn dragwydhawl hawlith hâd
Y rhof sicrwydh gwiw-lwydhgêd
Dyle dy drwn i adeilad
O oes i oes croew-foes cred
5Am hynn Arglwydh ku-lwydh cad
Wiw lown waith a folianned
Dy ryfedh wirionedh ras
Ymhlith y saint loewfraint les
6Pa vn fal f’arglwydh pa wâs
Yn yr wybren donnen dês?
Ymysg Duwiau gau sydh gâs
Pwy ’r ail ir Arglwydh pa wres
7Duw sydh ofnadwy a da
Iawn i saint daionus o
A lledfyw gynulleidfa
Sy wedi yw arswydo
8Pwy sydh o arglwydh Dduw? pa
Ior cadarn drwy iownfarn dro?
Ath wir oth amgylch fyth ion?
9Wyd reolwr dwr dros dyn
Cyfoder mowrder mor‐don
Goslegi geli y gwŷn:
10Curaist yr Aipht ae coron
Ail lladhedig lludh adyn.
Drwy nerth dy fraich gloew-fraich glan
Gwasgeraist deliaist d’alon
11Eidhod nefoedh hwy a wydhan
Eidhod ar dhaear Dhuw ion.
Seiliaist y byd gloewbryd glan
Ag oll sydh yndho gall son.
12Creaist ogledh sylwedh sant
Ar dehau or gorau gynt
Vchel enw llawenbychant
Hermon Tabor hoew-ior hynt
13Mae ’n gadarn dy fraich barnant
Eurnerth yw dy law arnynt.
Vwch yr haul dy dhehaulaw
14Barn cyfiownder syber syw
Trigfa d’orsedh cydwedh caw
Trugaredh widionedh yw
O flaen neb yn d’wyneb daw
Ior haedhaist orau hedhyw
15Gwynfyd i bobl dhi-gwynfan
A fedr draw fod yn llawen
Ynod arglwydh da anian
I’th lewyrch gynnyrch dêg wên,
Ath hyder ner gloyw-ber glân
Hir oedi hwy a rodien.
16Gwir afaeliaw gorfoledh
Iawn bu yno ’n denw bevnydh
Ith gyfiownder hoewder hedh
Ymdhyrchafant foliant fydh
17Ti wyd i nerth heb serthedh
Yn odidog rywiog rydh
Oth ewyllys wedhys Ior
Yn cyrn a dhyrchefi, ’n câr
18Cans o ’r Arglwydh, burlwydh Bôr
Y mae ’n tarian wiw-ran wâr
O sant Israel gafael gôr,
Mae ’n brenin bydhin ar bar.
19Siaradaist dwedaist da wŷn
Ith saint weledigaeth son
Rhois gymorth gwerth a berthyn
Ar nerthog enwog vnion
Dwysder or bobl dewisdyn
Dyrchefais yn dra chyfion.
20Cefais Dhafydh ffydh hoff ior
Iso a wueuthym wsnaethwr
Ag irais ef vwch goror
Am olew, santaidh milwr
21Am llaw nerthol budhiol Bôr
Gidag ef i gadw y gwr.
Am braich rhag dim bâr vcho
Oed rann hedh mi ae cadarn-ha
22Nid oes gelyn tremyn tro
Vthr ammod ae gorthrymma
Ar vn anwir hen yno
Cas diodhef nis cystudhia.
23Ger i fronn i alon ef
Yn astrus a dhinystriaf
I gaseion lloun yw ’r llef
O gywirwaith a guraf
24Gwedi ner gedy o nef
Trugaredh cywirwedh caf:
Yn f’enw i gorn fy ion gwar.
Drwy orchaffiaeth dyrchefir
25Codaf i law daw hyd ar
Y moroedh dyfroedh da wir
Ae dheheulaw cofiaw car
Yn hyd afonydh yn hir.
26Yngalwa wnaiff angel nad
Gwnn dha wedi gann dhwedyd
Yt Duw fwynhau wyt fyn-had
Vchel am craig am iechyd
27Yn
Cynfab. Primogenitus.
gynfab hoew arab had
Rhodhaf yntau gorau i gyd.
Goruwch llin y brenhinoedh
Daear oll da yw a rydh
28Cadwa ’n wàr syn-hrugaredh
Drwy i gywaeth dragywydh
A’m kyfamod hynod hedh
Idho ’n ffydhlon fodlon fydh
29I ’r nef gosodwyd hefyd
Tragywydh heinydh i hâd
Ae orsedh fawredh drwy fyd
Ir nef fydh fel dydh i dad
30Os dy blant swrth a wrthyd
Fynghyfraith ag affaith gwad
Gwann redeg ag ni rodiant
Yn fy marn oedh gadarn gynt
31Olwgr oll os halogant
Fy nedhfau hoew eiriau hynt
Yn iach oed oni chadwant
Fy status hwylus helynt
32Gofwya heb nam i camwedh
A gwialen drwy gwilydh
Hoen aruthr ae henwiredh
Yn chwerw a phoen a cherydh
33Drwy y gwir caiff drugaredh
Wyf Naf ni phallaf yw ffydh.
34Ni wnaf gam torr cyfamod
Yniwedh fi ni newyd
A dhwedais a fynnais fod
35Tyngais vnwaith nid gwaith gwyd
Sant na phallwn hwnn hynod
Dhafydh dhedwydh gan dhwedyd.
36I hâd o gariad a gwedh
O gowaeth yn dragowydh
Eursathr fal haul i orsedh
Ger fy mron yn fodlon fydh
37Fal y lleuad wasiad wedh
E bennir yn sickr beunydh
Ag fal ffydhlon dystion da
Ir wybren vwch haulwen hi
38Cosbaist dyst yraist herwa
A digiaist ni ostegi
Wrth dy frenin llin llyna
Eneiniog glan oe eni
39Didhymaist ni lwydhaist les
Duw ior gyfammod dy was
I goron dirion ar des
Halogaist ni rodhaist ras
Ond i bwrw o dyb eres
Lle ’r ai i glod i’r llawr glas.
40Drylliaist gosodaist yn sied
Furiau ae gaeau i gyd
Ae le ymdhiffin ar led
Yn adwyau ion diwyd
41Yr holl ffordholion ae rhed,
Drwy yspail a gormail gwyd.
Aeth yn warthrudh lludh y llann
A dig yw gymmydogion:
42Cadaist dheheulaw cydwan
I wrthnebwyr serthwyr son
Llawenydh fydh yn y fann
Y leni yw elynion.
43Tr iust hyfedr troaist hefyd
Fin i gledh fu’n goel eidhod
Ni nerthaist bwriaist ir byd
Mewn rhyfel iawn awel nod
44I lawender ae lendid
Eurfawr peraist i dharfod
Bwriaist neu di a beryd
I lawr i orsedh o lid
45Torraist dhydhiau byrhau ’r hyd
Torraist chwenc torr ieuengtid
Toaist gwilydh tyst gwelyd
Trosto heb wedh yn trystio bid
46Pa hyd ner ar hyder rhydh
Yr ymgudhi rhi yn rhodh
Drwg awel ai ’n dragywydh?
A lysgdy dhig fowrdhig fodh?
47Cofia pa loes yn foes fydh
Yn ymwan fal tan tynnodh.
Pam y creaist erchaist ior
Dy blant nwyfiant yn ofer?
48Pa wr yw a fydh byw Bôr
Ni wyl farwolaeth o ner
A wared enaid eurior
O vffern fedhiant offer?
49P’le mae gwedh trugaredhion
Eidhod Arglwydh hoewrwydh hen
Dy wir i Dhafydh da ion
A dyngaist pand yw angen?
50Cofia rhag trais dy weision
Arglwydh rhag gwaradwydh gwên
Yr vn a dhugym o ras
Naf manwl yn fy mynwes
Gan fowrion gweigion a gwas
51Yr vn o warthrudh o wres
Dy elynion coegion cas
Cofia arglwydh mi ae cafes.
Rhai atgas a gaeasont
Ol d’eneiniog enwog ynt
52Bendigedig nas digiont
Fydho ’r arglwydh rhwydh ar hynt
Felly be vnydh bydh lle bont
Amen, Amen, lle mynnynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.