Psalmau 58 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y LVIII Psalm. Gwawdodyn ByrR

1Os kyfiawn os iawn ydyw ’ch fenedh?

Ae da ydych orig dwedwch wiredh?

A fernir y gwir heb garedh weithion

Ynysg plant dynion vnion annedh?

2Yn drwch y gyrrwch heb drugaredh

Daear yn arvthr drwy anwiredh

Treisiaw ach dwylaw trowsedh a gerwch

A hynny a bwyswch ar bennau bysedh.

3Dïeithron dynion heb wirionedh

Er pann i ganed galed guledh:

Kan aethont ffordh front o fryntedh ae dug

A dwedyd gau ffug sarrvg suredh.

4Mae vdhynt yw dhwyn wenwyn unwedh

Sarph las ail wnias ynt o lownedh

Fal As[b]ys dhyrys fydharedh dhistaw

Ni wrendy swynaw soniaw synnedh.

5Ni wrendy ar lais malais maledh

Y swynwr fwriwr pob kyfaredh

Ae swyn-air fowrair oferedh gantho

A wyr gonsirio ar gan sorredh.

6Duw Duw dinystria diwyna i dannedh

Drwy dynnu skythru i yskithredh

Ail llewod hynod honnedh yw ’r rheini

Ag in erbyn ni geli guledh.

7Ail llif y kornaint dhifraint dhyfredh

Y llithrant heibiaw gwynaw gwanwedh

I saethau geiriau garwedh a yrrant

Yno a dorrant yn y dewredh.

8Fal y tawdh malwen gornwen garnedh

Felly y llithrant gant ar gyntedh

Fal yr erthul mul a moeledh dhidraul

Ni welodh yr haul araul evrwedh.

9Kynn tyfo i blagur eglur ogledh

Yn bigog dhreiniog yn dhi-rinwedh

Yw lid e dhilid dhialedh arnynt

A dwg oe helynt ag oe haeledh.

10Y kyfion a gwên lawen loewedh

Wrth weled dîal kymal kamwedh

Gylch i draed a gwaed gydwedh lle’r elai

Y dyn a wyrai hyd anwiredh.

11Pob enaid dowaid yn y diwedh

Fod ial ir vnion gyfion gyfedh

Am fod yn barod buredh yn ar bar

Vn Duw di-gymar daear dvedh.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help