1Kadw fyfi rhi mae ’n rhaid
Wyt ior enwog truaniaid:
Yn nês y dwfr oe naws doeth
Wyf anoeth at fy enaid.
2Aros ni allaf orig
Ym-hwll y dom hyll a dig:
Agyn-nyfndwry dwr dwfn
Yn an-nwfn mae ’n wenwynig.
3Gwael wy ’n wir yn galw y nos
Yn krygu mewn kur agos
Blinodh fy llygad blaen-wann
O Duw eirian yn d’aros.
4Amlach nam gwallt hallt yw hynn
Y ny gwelais mae gelyn:
O nerth fynghaethiwo a wnant
Rhedant mewn ftaliedh rhy-dyn.
5Ni threisiais telais at bedh
Ag ni ffaeliais gan ffoledh:
Ior rhygall ni chudh rhagod
Y mau bechod am buchedh.
6Ni bydh kywilydh keli
A chas wedh om achos i:
Ir gwr ath geisio ar goedh
Duw y lluoedh di ae llywi.
Ni wridant gan waradwydh
Y saint ath geisio yw swydh:
Wyt Dhuw nef ydwyt dha nod
Eurglod om achos, arglwydh.
7Yn wir er dy fwyn orig
Im keblir delir fi a dig:
Kywilydh prudh sy ’n kudhiaw
Arwydh draw im grudh a orig.
8Keraint nid ynt im karu
Yn yr vn fraint erwin fru:
Ydwy athrist dieithrwas
Fradwr kas gann frodyr ku.
9Wyf eidhig orig arwydh
Bid dy serch im bwyta o swydh:
Ar gwyr ath gabla ar gân
Dy ogan ym y digwydh.
10Ymprydiais wylais alar
Hynod gamp am henaid gwar:
Hynn a droed hoewan dro
Y nuw etto yn watwar.
11Gwisgais liain wyf fainwas
Y sach braisg o garth sych bras:
A hynn ni wnaeth honni neb
Dihareb pob dihirwas.
12Eistedhant dwedant ar don
Gyrrant ym eiriau geirwon
Yw kyfedh dig hyfedhw dant
Y kanant ae hakenion
13Er hynn gelwais dhuw rhi
Yma gwaedhais im gwedhi:
A Duw ion mewn pryd arab
Gwir vnduw fab gwrando fi.
Dod oth fowredh vnwedh ion
A ched ior iechyd wirion:
A gwared di nid gair twyll
O dhidwyll adheweidion.
14Tynn fi or llaid rhaid yrhawg
Ior tyner ar dwfr tonnawg
A gwared dy was gwirion
Rag gelynion Rhai klonnawg.
15Rhag bodhi boeni benyd
A chau oer bwll chwerwa byd:
Rhag ir bedh ar dyfnedh du
Fy llynku yn fwll enkyd
16Moes atteb hoew vndeb hedh
Oth wir anian ath rinwedh:
Gwrando arnaf naf am nad
Drwy gariad oth drugaredh.
17Na ymgvdhia mwy godhed
Rhag dy was kroew vrdhas kred:
Brysia gwrando fi ’n brysur
Trwm y w’nghur tro yma ’nghed.
18Brysia rhed gwared y gwas
Fy enaid wyf dy fwynwas:
Ag achub rhag gwyr gwchion
Gelynion am galanas.
19Kefais senn am brickbrennu
Yn wir a dig anair du:
Gwrth nebwyr herwyr hirweilch
Yn d’wydh yn feilch didhawn fu,
20Gofid kes adfyd gofio
Y galon drist gwael iawn dro:
Nid oedh neb nid oedh yn ol
Siriol wr im kysurio.
21Roi y bussl hir y bostiynt
Im bwyd arglwydh rhwydh yw’r hynt:
Sych a dig im syched egr
Y finegr a dhanfonynt.
22I bwyd yn faglau y bydh
Yn ymosod in mevsydh:
Ae ffynniant anhoff anial
Yn rhwydau yw dal rhyd y dydh,
23Peri arglwydh rhwydh im rhaid
A llwgr dowyllu i llygaid:
Yw kalon vn Duw keli
Peri ofni mewn prifnaid.
24Dyro ir rhain daro ar haint
A gofal a digofaint
Dy lidiaw ae deil wedi
Dig o ynni dwg ennaint.
25Bid llys heb dhim bwyd a llyn
Herwr bid y dihiryn:
Oerwr heb neb i aros
Yn y didhos nae dydhyn.
26Erlidiant ar ol wedi
O drais dyn drewaist di:
A chwanegant drwy antur
I dholur yw dhielwi.
27Dod anwiredh anwedhol
At i enwiredh ffalsedh ffol:
I fendith dy gyfiownder
Duw an ner nis dôn yn ol.
28Duw i henwau a dynner
O lyfr bowyd byd oedh ber:
Wedi a dawn gida dynion
Vnion nag ysgrifenner.
29Tyst oer fab tostur wyf fi
Ag anghenawg ynghyni:
Ti ath iechyd affryd ffraeth
D’orchafiaeth im dyrchefi.
30Mola enw Duw mael enwawg
A rhwysg a chaniad yrhawg:
Moliannaf a mawl wnniau
Yn i wrthiau ollnerthawg.
31Gwell yw gennyd wiwbryd ion
Y gwawd hwnnw nog eidion:
Na tharw ag ych vthra gwg
O rann hirwg gyrn hirion.
32Gwyl truaniaid blaid o blant
Yn iachus llawenychant:
A geisio Duw deg o stad
Ef a wydhiad byw fydhant.
33Gwrendy dan gof Iehofa
Dylodion a dynion da
I garcharwyr gyrch irad
I magiad ni dhirmyga.
34Molwch cf yn y nefoedh
A daear oll Duw ior oedh;
Ag oll a red gwell o rann
Yn y marian ar moroedh.
35Duw syw ef a geidw Seion
Ag a adeila yna ion:
I blant didhig y trigant
Hynny a fedhant iawn fodhion.
36A fflant i weision hoff liw
Ae medhiannant modh iownwiw:
Yno taria yn anwar
Yr vn a gar i enw gwiw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.