Psalmau 126 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y CXXVI Psalm. Vnodl vnion.

1Pann dhychwelodh rôdh rwydho fy arglwydh

Fowr-glûd Seîon gaethdro:

Yr oedhem dirwystrem drô

Braidh wedi fal breudhwydio.

2Llanwyd enynnwyd yn onest gênau

I gynnal gwên orchest:

Ag o lwydhiant a glôdhest

Yn tafod a ffennod ffêst.

Cenhedloedh bleidioedh yn blâ o dhadwrdh

A dhywedant yna:

Duw a wnaeth bethau mawr da

Yn ammed i’r rhain ymma.

3Yn odiaeth duw a wnaeth dan wydh ym orig

Bethau mowrion celfydh:

Ar hynn yr oedhem yn rhydh

In llanwyd a llawenydh.

4Dychwel arglwydh rwydh radhau oth awydh

Yn caethiwed ninnau:

Fal afonydh bronnydh brau

A dywailt yn y deau.

5Os dagrau ’n forau a twriant thyd hâd,

Ar y tir pann haeant:

Mewn glodhest gorchest i gant

Yma wedi y medant.

6A rodio rhagdho ar hyd ystyriawl

Yn dosturus hefyd:

Gann wylo gwae fo i fyd

O rhoid y gwerth-fawr hâdyd:

Gann dhyfod hynod henwen yw sgubor

Ae scubau hyd nenbren:

Hwnnw a dhaw yn llawen

Dann glûdo efo ae fenn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help