1Vw ’r Israel diwael, da ion
Gwelwch i bob glan galon.
2Agos fu ffael drafael dro
Ail athrist ymy lithro,
3Wrth feilchion trymion i trais
Ganwaith y kenfigennais.
Gweled rhwyd hynt symi-hynt son
Anaele anuwiolion.
4Nid oes vdhynt rwym na dau
Diengant hyd angau.
Na chlefyd er hyd yr hynt
O nodwch kryfion ydynf.
5Poen fowredh pann fo arall
Yn dal ar gur dolur gwall.
Nis daw vdhynt naws diodhef
Na ffrewyll ol ni phair llef.
6Ae balchedh blin agwedh blant
Gwedi yno ymgadwynant:
A thrais yn dhillad a thra
Ackw adhas ae kudhia.
7A chwydh i llygaid a chig
A braster llownber ystig.
Mae vdhynt siwr medhiant son
Golud wrth fodh y galon.
8Sur oedi beilch siarad bar
Yn floesgion yn faleisgar:
A cham udhuchod a chwant
Sy oer wed siaradant.
9I genau ’n vwch gwenwyn oedh
Nawr o nwyfiant na’r nefoedh:
Ae tafawd parawd yw pena
A yrrant drwy ’r dhaearen.
10Edrych y drwg ae rhodres
Gweled i llowned ae lles:
Hynny a bair ymhonni bydh
Troi vnion taer awenydh
11Dwedant gwaedhant ’r gwiwdhuw
O dhall don a dhevall Duw?
Oes gwybodaeth nwyfiaeth naf
Orevchwedl ir gorvchaf?
12Wele yr anvwiolion
Dedwydh ir byd diwyd don:
Ag aml-hant heb gymal hyd
I kyfoeth ackw hefyd.
13Ofer yw ’n wir ym fry ’n ion
Ynghuli lanhau ’nghalon.
Ag ymolchi henwi hedh
Ku f’enaid, mewn kyfiownedh.
14Kês adfyd benyd bevnydh
Bai prudh oer bob borau dhydh.
15Duw wyd hael o dweda hyun
Diau oerbwyll yn d’erbyn.
16Medhyliais am wedh eilwaith
I wybod hynn ar bob taith.
Dal erioed dolur ydoedh
Hynn a drwg im golwg oedh:
17Nes im fyned o gêd gwar
Ith fwynaidh santaidh seintwar.
Deullais gwelais i gyd
Poenau ’r gwyr drwg ae penyd:
18Gosodi wynt a gwys dig.
Llu athrist mewn lle llithrig.
Bwri yn wir borau a nos
I dorr mwnwgl draw ymannos.
19Difethwyd bwriwyd i ball
Dyna angaudyn anghall.
Ag o fowrgur gyfyrgoll
Darfuont todhasantoll.
20Fal deffro dihuno don
Ofer dhadl o freudhwydion.
A mwg o boen dirmyg hyd
I hamkanion mae kennyd.
21Yn fynghalon fynghvli
Lle daw serch y llidiais i:
Am medhyliau modh alar
A dhwg o boen dhig a bar.
22Ffol adhyse nid ffel oedhwn
Ag heb dheuall gwall y gwnn:
Oedh im kof yn d’wydh im kaid
Vn wyf fal anifeiliaid.
23Ag er hynn goran honni
Gwawd oth waith wyf gida thi.
Diwael dro di am deli draw
Waith hylwydh ath dheheulaw.
24Adysgi im iory dasg man
Ynghariad ath gynghorau.
Am derbyn a chwyn o chwant
I ganol dy ogoniant.
25Pwy ond dydi imi oedh
Vniawn naf yn y nefoedh.
Ag ni cheisiaf koethaf kar
Adhewid ar y dhaear,
26Diffygiodh kulodh kalon
Am knawd braisg gida ’m knwd bronn.
Wyd nerth im oes dan wyrth mawl
Y gwiwdhvw yn dragwydhawl.
27Sawl a el at y gelyn
A dherfydh diffyoh y dyn.
28Kaiff hefyd a ffenyd ffad
Naws etto neshau attad:
Duw fymdhiriaid gannaid goedh
Traetha i rad trwy i weithredoedh.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.