Psalmau 84 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y LXXXIV Psalm. Englyn vnodl vnion.

1Mor hawdhgar mor war duw mafrr

Dy bebyll or lluoedh (oedh i bawb

2Fy enaid gannaid ar goedh

Wych wedi ith chwenych ydoedh.

Blysiais hefyd fyd gwynfydio fawrglod

Blasau f’arglwydh tirion

Gorfoledh mowredh o’m ion

Yw cael om cnawd am calon.

3Adar tô’n ceisio cyson a gofal

A gafodh dùy bodlon

Cafodh gwennol dethol dôn

Iaith wych wiw nyth yw chywion:

Sef allorau tau wyt ti yn Arglwydh

Eurgledh lluoedh geli:

Am rann oes fyrenin i

Da odiaeth am Duw wedi.

4Gwynfyd da wryd sawl a dariant Duw

Yn dy dùy heb soriant

Yn wasi ad fal siarad sant

Iaith dht flin ath foliannant

5Gwyn i fyd ennyd dyn vnion o wyrth

Ae nerth ynod weichion

Ath lwybrau sy orau son

Yno yw gael yn i galon.

6Clodbiant lle rhedant er hynn oes iechyd

Er syched y dyphryn

Ymhob cornel lle delyn

Y glaw ae lleinw ir glynn.

7Ag o nerth i-nerth vnion ar hyder

Y rhedant yn fodlon

I weled breisged ger bronn

Downus yw Duw yn Seîon.

8Duw Arglwydh gu-iwydh geli y llywiant

Duw ’r lluoedh vn a thri

Cul fyng-waedh clyw fyng-wedhi

Duw Iaco gwrando ar gri

9Duw gwel dioerfel wyd arfawg in tir

An tarian chwerthinawg.

Edrych yn rhwydh-wych y rhawg

Yn wyneb dy enneiniawg.

10Gwell dyfod dhiwrnod neu dhau yn dirion

I dario ith gyntedhau:

Na ffe caid mawr enaid men

Mowl‐wedh oedh mil o dhydhiau

I dhuw mawr

Porthor.

drwsawr drwy oseb dwysair

Dewisais drwy vndeb

Na phabell yn well i neb

Yn eildydh anuwioldeb.

11Haul glan, a tharian ni thorrant wirglod,

Ir Arglwydh roi moliant

Rhydh ras ag vrdhas i gant

A gwiw gynnal gogoniant.

12Duw hylwydh arglwydh eurglod y rhifir

Duw ’r rhyfel ar gosod

Llwyr dhedwydh a fydh oe fod

Y dyn a ymdhiried ynod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help