Psalmau 148 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y Psalm. CXLVIII. Cywydd Deuair Hirion.

1Molwch Nêr: dyweder, Da oedh,

Orau Naf, Iôr y nefoedh:

Molwch ef, ein nef Nêr,

Wych eildasg, ir uchelder.

2Molwch ef, diweirlef dôn,

Y ’ngolwg, ei angylion:

Molwch ef, rhad aml iweh’ oedh,

A llywiant, ei holl luoedh.

3Molwch ef, ag ef a ga’d,

Llewyrch yr haul a ’r lleuad:

Molwch Nêr, amlwych i ni,

Lawnedh, ser a goleuni.

4Molwch ef yn y nefoedh;

Difai ei rad ir deifr oedh,

Y rhai ydych yn rhodiaw

(Iawn fodh drum) uwch nefoedh draw.

5Molant enw ein Duw mawlair,

Dedwydh gynt, d’wedodh y gair:

Gwnaethpwyd a chrewyd, (wych rodh!)

Ymannos, pan orch’mynodh.

6Yn dragywydh, rydh radhau,

I beri hwynt i barhau:

Gosododh ledhf dhedhf oedh wir,

Is hedhwch, ni’s trosedhir.

7Molwch f’Arglwydh gulwydh, gwar,

Orau Dduw, ar y dhaear;

Y dreigiau, dirywiogweilch;

A ’r dyfnderau, byllau beilch:

8Tan, cenllysg, terfysg nid da;

(Toraeth garw!) tarth ag eira;

Anadl y gwynt uniawnair,

Yn hoff iawn a wnaiff ei air:

9Y mynydhoedh c’oedh, yn cau

O bêr rinwedh, a ’r bryniau;

Y coed ffrwythlawn, gwawn, a gwŷdh,

A lles edrych, holl gedrwydh:

10Y bwystfilod wiwglod, ail

O nwyf, a phob anifail;

Ymlusgiaid, ac aml esgyll

Adar a drydar drwy wyll:

11Brenhinoedh daear arial,

A ’r holl bobloedh, da oedh dal;

T’wysogion, union ennyd,

(Fawrner barch) farnwyr y byd:

12Gwyr ifaingc a gwyryfon;

Henwyr, llangciau, diau dôn:

13Molant enw Nêr, Mawrner, mwy,

O’i fod yn dhyrchafadwy;

Canmolir ef uwch nefoedh,

Ac ar y dhaear lle ’dh oedh.

14Hwn a dhyrchaf (Naf ein Nêr)

Gorn ei bobloedh, Gywirner;

I bob sant ei foliant fo,

Ag y sydh agos idho:

Plant Israel, os hael yw’ch swydh,

O fawrglod, molwch f’Arglwydh.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help