1Dadle arglwydh da odli
Wych o serch fy achos i:
Yn erbyn gelyn gwaelwr
Mowrboen oedh im erbyn wr
Ymladh yw erbyn ymlid
Sy ’n ymladh im lladh a llid.
2Dyro di draw dy law lan
Dyro ith glawr a’th darian.
Kyfod i dhyfod i dhydh
Im achub yma echwydh.
3Ath waewffon gyfion i gant
Rhagod i ffordh eu rhwygant:
Oerboen oll yw erbyn ef
Ym erlid sydh a mowrlef.
Dowaid imnaid ae maeth
Erod wyf iechydwriaeth.
4Gwradwydh ag affwydh a gaid
Gwas a fynn geisto t’enaid.
Yskilier f skeler yw
Dinystrier dyna ystryw.
A dhychymig mowrdhig mau
Ymannos dhrwg i minnau.
5Memwas fal y manus fydh
O flaen y gwynt aflonydh:
Angylion ing a welyd
Ae gwasgar a bar drwy ’r byd.
6Bid i llwybrau dyliau dig
Dull vthr yn dowyll lithrig.
Ag angel Duw gonglaid wych
Yw erlid yn i oerwlych.
7Heb achos breuffos briffordh
Rwyd ym a fwll rhoed im ffordh.
klodhio im henaid kladhu
A chas fyth heb achos su
8Del distryw yw fyw yw fwth
Idho somtant dhisymwth.
Y rhwyd ae deil (rhed y dall)
Was sur a roes i arall.
A syrthied fab swrth hyd fyw
Ond astrus ir vn distryw.
9Yno bydh llawen f’enaid
Yn yr arglwydh rhwydh im rhaid.
Mewn llawenfyd a ffryd ffraeth
Dewrwych ae iechydwriaeth.
10Dywaid f’esgyrn chwyrn a chig
Da obaith pwy sy debig?
Gwaredaist yn gariadawl
Dylawd fyth lle dylyd fawl.
Rag y dyn ae rhwyg o daw
Hagr a fydh rhygryf idhaw.
Tylawd t[r]uan egwan iaith.
Or vnrhyw rhag yr anrhaith
11Y tystion kreulon i kri
Gadwyd idhynt hwy godi.
A chwedi fy holi o hwnn
Anadhas beth ni wydhwn.
12Tros y dawn trais a diwynaw
Talwyd iym wg a drwg draw:
I anrheithio tro nid rhaid
A fu annwyl fy enaid.
13Oedhynt gleifton weigion wedh
Gwisgais garthen im gosgedh.
Ymprydiais gostyngais daith
Fy enaid araf fwyniaith:
Am gwedhi er llenwi lles
I minnau troed im monwes.
14Ymohygais a modh wiwgar
Bryd vn gwrs a brawd neu gar.
Vsydh alar fedhyliais
Fal am fam nid kam yw ’r cais.
15Ymgasglu tyrru taerwaith
Llawenfryd om adfyd maith.
Oerwyr ymgasglant orig
Im erbyn Duw mowrboen dig.
Ni wydhwn archwn oerchwyth
Im rhwygaw heb beidiaw byth
16Gwatorwyr difyrr nid oedh
Gwael adhysg ar y gwledhoedh:
Kinkian dannedh, gyfedh ged
Im erbyn heb dhim arbed.
17Pa hyd arglwydh rhwydh am rhi
Awr drachwant ir edrychi:
Gwared f’enaid naid a nerth
Trwy offis, rhag i trafferth:
Fynghannaid enaid vnig
Rag llewod keudod y kig.
18Ir dyrfa fawr draw fo fydh
Bennaeth yt dhiolch beunydh:
A mawl a serch aml a son.
Downus ymysg plant dynion.
19Nâd im gelyn ffromdhyn, ffraeth
Fostio ar ol i feistrolaeth.
Nag amnaid ae llygaid llonn
Lawenydh fyngelynion.
20Nid fal kar groewbar grybwyll
Amkanant dwedant o dwyll.
Yn erbyn sydh lonydh lan
Ar y dhaear oer dhiwan.
21Agor i safnau eigion
Ae dwedyd nid dybryd don:
Ha ha nod trada nid rhaid
Holl lwgr fo wyl yn llygaid.
22Gwelaist o arglwydh gwiwlym
Na fid distaw draw dy rym:
Na fydh Arglwydh rhwydh rhodhwar
Ymhell anghysbell ynghar.
23Deffro nod kyfnod Duw ku
Ym o burnerth im barnu.
Ymhachaws hynaws henwaf
Fy nuw fy arglwydh fy naf.
24Barn fi dethol yn ol ner
O fwyndaith fyngl yfiownder.
Na fydhed lawen enhyd
Im erbyn gelyn i gyd:
25Na dhod yw kalon dhideg
Lawenydh vn dydh yn deg:
Na dwedyd taerllyd oerlief
Nawr y difethasson ef.
26Kywilydh yw dhydh a dhel
A derfid gwedi oerfel:
Sydh lawen gymen dhi-ged
Mewn awydh om aniwed.
Bid i dillad frad heb fri
O gwilydh mann y gweli.
A ymgotto wrth ymguttiaw
Oerboen drwch im erbyn draw.
27Bydhant lawen purbren per
Fwyndeg a gar gyfiownder:
Dwedant am yn Duw wedi
Mawrhyger yn ner yni,
A gar ffynniant lwydhiant les
Y gweision a dhangoses.
28Am tafawd o draethawd rydh
I gyfiown der gof vndydh.
Ae foliant hyd fy elawr
A edrydh beunydh bob awr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.