1Na cherydha ’n chwerw wiwdhuw
Fi yn dy dhig f’enaid Dduw:
Yn dy lid gwnn dylodi
Achos bu fai, na chosb fi:
2Dy saethau yn gwan dan gof
Disgynnant o dask ynof.
Ath law o nerth dhiwael naf
Oeruych a orwedh arnaf:
3Afiach wy fi o chaf farn
Ae dig ydwyd Duw gadarn,
Nid esmwyth f’esgyrn dismoel
Om pechod digymod goel:
4Am enwiredh mewn eiriawl
Dros ymhenn a droes ym hawl:
Yn fymhwysaw draw yn drwm
Awch rhodres fal baich rhydrwm.
5Am archollion dyfnion du
Anhap edrych yn pydru:
A gori yn wir gerwin wedh
A ffaeliais drwy fy ffoledh.
6Plygwyd a gwyrwyd fi ar gais
Ackw oer ymy lle krymmais:
Rodio a dwyn rhyd y dydh
Y galar yn i gilydh.
7Wyf yn llawn om miawn ymi
O braw antur a brynti.
Tremelius.
Nid oes iechyd dwys ochain
O’m knwd im oes am knawd main
8Gwanhychais egwan hachen
E droes ymhwynt dros ymhenn.
Rhuadus wyf rhaid yw son
Koeliwch gan dholur kalon.
9Oth flaen arglwydh fu rwydh frys
Dwf wellwell daw fy wllys,
Di-gvdh rhagod o wegi
Chwaen dost fy ychenaid i:
10Di-galon ydwyf gwelwch
Dan warth a fflaid dinerth fflwch:
Dall agos ydiw y llygaid
Di-lewyrch ikyrch ykaid.
11Fyngheraint rhag fyngherydh
O koelia byth kilio bydh,
Am karennydh dirydh daith
Ammarch a safant ymaith.
12Gosod maglau kau eu kaid
Gwas a fynn geisio f’enaid:
Digasog heb eu geisio.
Ae siarad drwg sura tro.
Gwastadol nid gweis didwyll
I dychymig dig o dwyll:
13Fal bydhar er trydar trais
A chul awydh ni chlowais.
Ag fal mùd y gofal mau
Gwrs ynn ni egorais enau.
14Idh-ydwyf heb nwyf yn war
Afael bowdhyn fal bydhar:
Y kallair nis kair naws kau
Yn onest yn i enau,
15Kans arnad a rhad ior rhwydh
Eurglod arhosaf arglwydh:
Fy nuw fy arglwydh fy naf
Wirner gwrandewi arnaf.
16Nâd fantais disyfais hir
Im gelyn y mogelir;
Pann lithrwyf o nwyf a wnant
Orchafiaeth ymdhyrchafant.
17Yr wyf yn wir ar fin nos
O gael ffug yn gloff agos,
Am tristyd wryd orig
Blin yw draw om blaen a drig.
18Pann d[r]aethwyf poen dir waethwaeth,
Y’m mhoenau ffres i’m hûn ffraeth:
A phann f’wyf drift a distaw
Om baich trwm o bechod draw,
19Mae ’ngelynion rhwithion chwyrn
Fwy godiad yn fyw gedyrn.
20Gwrthnebwyr herwyr oera
Drais dig a dal drwg dros da.
A inni ynni vniawn
O dholen dysg dhilin dawn.
21Na wrthod ior hynod rhwydh
O fowrglod fi fy arglwydh.
Fy nuw na fydh hoewrydh hyf
Dhiwarthwch bell o dhiwrthyf.
22Arglwydh mwyn aroglaidh maeth
Dewrwych fy iechydwriaeth.
Brysia eryr brysurawl
Im kymorth am ymborth mawl.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.