Psalmau 103 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y CIII Psalm. Deuair hirion.

1Fy enaid mwyn f’unduw mawl

F’arglwydh goreuswydh grasawl:

A’m calon fodlon a faidh

O flaen saint fawl enw santaidh.

2F’enaid dichwith fendithia

Fy Arglwydh ner dyfnder da:

Nag anghofia mowrbla mau

I dhaeoni ae dhoniau.

3Yr hwnn a fadhau drwy hedh

Hyll iawn air holl anwiredh:

Hwnn sy ’n iachau geiriau gwell

Dy lesgedh diwael asgell.

4Gweryd dy fywyd gwirion

O dhistryw hwnn yw ein ion:

Trugaredh cûr, tosturi,

A’r rhain ith gorona rhi.

5Yr hwan a dhiwalla ’n rhaid

A da[...]ll bwyd enaid

Adnowydher fel eryr

Dy iengtid gwelid vwch gwyr.

6Yr Arglwydh iawn awydh ner

Fwyndaith a wnaiff gyfiownder

Ag a rydh farn rhag darn dig

Madws ir gorthrymedig.

7Ysbysodh rhodhodh yn rhes

Foesol i ffyrdh i Foeses:

Ae weithredoedh coedh yw cael

Ras-rwym, i blant yr Israel.

8Trugarog rhywiog a rhwydh

Eurglod graslawn yw ’r arglwydh:

Trugarog enwog vnion

Hwyrfrydig yw dig i don.

9Nid yw byth wrth nodi bar

Wres angerdh, ymrysongar:

Ag ni cheidw ef sef yw saint

Dhygyfor o dhigofaint.

10Nid wrth nod yn pechodau

Y gwnaeth a ni rhi fawrhau:

Nid wrth yn anwiredh ni

Ae law dhawn talodh yni.

11Cyfuwch yw ef ar nefoedh

Vwch law ’r dhaear flaengar floedh:

Rhagor drugaredh medhynt

Ir rhai as hofnai ar hynt.

12Os pell dwyrain cain y cad

A gorllewin gwrr lleuad:

Pellach camwedh ryfedh rym

Dhiwarthwch o dhiwrthym.

13Os tostur tad nis gwadant

Wrth enaid i blaid ae blant:

Tosturach mewn tyst irad

Ir rhai ae hofnai a rhad.

14Cans fo edwyn dhŷn ae dhydh

Ae dhyfn waith oll ae dhefnydh:

Cofio ar goedh mal yr oedhem.

15Di-barhau yw dydhiau dyn

Glwys alltud fall glaswelltyn:

Fal blodeyn dhyn idh-â

O duedh fe flodeua.

16Pann chwyth gwynt cor-wynt caerydh

Ag yn y byd gwnn y bydh:

I lo fyth ni wyl efo

Nae hanes na dawn hono.

17Trugaredh Duw trwy gariad

Tragywydh fydh rhwydh a rhad

A thragwydhol’ôl eilwaith

Ir ae hofno mwyndro maith.

18Cyfiownder llwyr i wyrion

A geiow i amod wiwnod ion

Am gof gwneuthur bûr heb au

Orchmynion ior vwch mannau.

19I orsedh ef ir nefoedh

Bûra dim yn barod oedh:

Ae frenhiniaeth loewfaeth lan

Yn rhôli ’r cwbl yn rhylan.

20Molwch yn nêr dyner don

Yngolwg yrangylion.

Y kedyrn a di-hoccedair

Yn hoff iawn a wnaiff i air.

Gann wrando pêr leferydh

Orau i fod oe air fydh.

21Bendith cù i holl luoedh

Argoel dhwys ir Arglwydh oedh.

A’i hòff weision wirion wys

Ollawl a wnaiff i llys:

22Bendithiwch ef nêf yn war

I weithredoedh a thrydar.

Ail edrych i lywodraeth

Ymhob mann gwelan nad gwaeth:

Bendithia f’arglwydh rwydh raid

O fwy ynni fy euaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help