1A golau serch gelwais i
Nâf yng-hanol fyng-hyni:
Duw fy nêr tyner daeoni diau
Gwrandawodh fy mowrgri.
2Cadw fy enaid rhaid y rhawg
Cûl oedh rhag min celwydhawg:
Rhag tafod hynod di-hunawg lleidryn
Twyllodrus a geuawg.
3Beth a enuill byth ynni
Tafod twyll lle tyf yti:
O’th oer-bwyll a thwyll beth elli goffa
I gaffael ond asbri.
4Fal marwor neu ragor ryw
Ym o eirios or
eithinfyw
meryw:
Geiriau fal saethau llymion syw i gawr
Ae gyrru o fwa ŷw.
5Gwae fi o dario vn dydh
Y’-Mesech flina meusydh:
Nag ar dir Cedar cydwydh brau solas
I breswylio vndydh.
6Hir y trig a hwyr at raid
A fu anawyl fy enaid:
Gida ’r rhai gwaetha a gaid o rhiswch
A gâr rhyfel tanbaid.
7Hedhychol nodol iawn wyf
Yn dhidwyll: ond pann dhwedwyf
Am dangnefedh hedh haedhwyf air afiaith
Mae ’n rhyfel imowrnwyf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.