Psalmau 72 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y LXXII Psalm. Deuair hirion.

1Dyfg dy farn o dasg dy fawl

Dvw ir brenhin dewr breiniawl.

Ag yw fab wr gwiw a fydh

Gyfiownder dy gof vndydh.

2E farn yno oe froun ennyd

Dhynion yn gyfion i gyd.

Y kyfoethawg kof ieithoedh

Fal tylodion vnion oedh.

3Mynydh a dhwg ymannos

Dangnefedh yniwedh nos.

Ir brynniav oll ar bronnydh

Gyfiownder dyner bob dydh.

4E farna dlawd brawd ir brig

Madws sydh orthrymedig.

A rhydh i iechyd yrhawg

Ynghu enaid anghenawg.

Ef a sathr ag a fathra

Gablwyr sennwyr bleidwyr bla

5Tra fo haul tra fo heli

O fewn ein tir ofnant di:

Tra fo llewych tirf llevad

Byth byfhoedh kenhedloedh kad

6Disgynni ail dwys gain wedh

Yr odlaw ar yr adwledh

Fal kafod fal y kofiych

Y dhaear glaear ae gwlych.

7Y kyfion hoew vnion hir

O bai orchest a berchir.

Tra fo lienad rif llawen

Tangnefedh fydh rhydh ir hen.

8Ior hael byth rheoli bydh

Gwelwch or mor bigilydh.

Hyd eithafion daith hefyd

Y dwr balch a daear byd

9Dieithron gwyltion nid gan

Ae gwyl yno ar i gliniau.

Ae elynion o soniwch

Sy’n kasglu a llyfu llwch.

10Llawer anrheg deg dygir

Brenhin Tharsys, ynys ir:

Brenhin Sheba Saba son

Yn rhwydhwych yn i rhodhion.

11Ger i fronn pob gwir frenin

Gostyngant rhedant mewn rhin

Vwch boll genedloedh a chwant

Gyson waith, ae gwsnaethant.

12Teg ydoedh yntau a gadwai

Tylodion dhynion lle dhai.

E gymmorth rhag i gammu

Orthrymedig or dig du.

13Difudhia anghenawg hedh

Draw a gair ywdrugaredh

Ag o arw‐sigl berigl byd,

Ackw efo ae kyfyd.

14Tynni i bowyd hynod

O dwyll a thrais dull ith rod.

Amryw wyrthiau mawr‐werthiawg

I gwaed yw wydh rhwydh yrhawg.

15Kaiff yma yw oes koffa mawl

Aur o Saba wrsibiawl

Pawb a wydhiad pawb eidho

Ae wedhi a’i fawl idhaw fo

16Ystodiau fyth yw stad fydh

Ydau ir brynnian bronnydh

Ffrwyth daear lawengar lonn

Ail i bennod Libanon:

Ar yd cyn amled ar wellt

Yw dorri a daear‐wellt.

17I enw a gair enwog oedh

Hael naf tra fo haul nefoedh.

Pob kenedl a ymchwedlant

I fawl yn nefawl a wnânt.

18Bendith Dhuw i hoewdhuw hael

A dewisrodh Duw Israel:

Fo wna ’n vnig fwyn anian

Firaglau gwych fowrgoel gân.

19Yn dhichwith bendith bob oes

Yw ogoniant dheugeinoes

Llanwer daear mwyngar mau

Amen Amen gwed minnau.

20(Terfynant gweddïau Dafydd fab Isai.)

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help