1Attad Dhuw keidwad kodaf
Fynghalon yn vnion naf:
2Ywdhiriedaf naf nefoedh
Koelio i Dhuw nid kwilydh oedh.
Fyngelynion sy ’n llonni
A chas wedh om hachos i:
3Kywilydh ni bydh lle bo
Iaith gysson gwr ath geisio:
Bid kywilydh dreisiydh drwg,
Im erlidwyr mawr ledwg.
4Dysg dysg air hydhysg ior rhwydh
Dy lwybrau diwael ebr wydh.
5Dysg fi yna twysa at hedh
Doeth ranniad ath wirionedh.
Gwiliais i dydi bob dydh
Gwaredwr am gwir wowdydh.
6Koffa Duw ner syber son
Radhau dy drugaredhion
Ath dhaiont maith ennyd
Er dechrau a borau ’r byd.
7Ag na fedhwl wyf dhwl dhyn
Bechodau ebwch adyn:
Ond oth radlon dhaioni
Y kaffwyf fael koffa fi.
8Duw ior sy sugail da iawn
Dwys i dhyn Duw sydh vniawn.
Dysg i lwybrau rhadan rhod
Os bai wr ar dhisberod.
9Dysg ir truan egwan aeth
Degwch i farnadigaeth.
Dysg ir adyn dwys gredir
Hoff arwydh hwnt i ffordh hir.
10I ffyrdh ydoedh hoff vrdhas
Drugaredh gwirionedh gras,
A gatwo’n wiw a ffriw ffraeth
Dwys deilwng i dystiolaeth.
11Modhus er dy enw madhau
Enwiredh mawr wagedh man.
12Pawr o serch pur i swydh
Eurglod a ofna ’r arglwydh?
E dhysg idho ffyrdh heb dhig
Daith loewder detholedig.
13Daeoni Duw yw enaid
Yn medhiant i blant ae blaid.
14Dengys dhirgelion klonnawg
I rhain ae amod yrhawg.
15Ebrychaf gwclaf im gwydh
Dhioferglod Dhuw farglwydh:
Hwnn a dynnodh mwynrhodh mau
Yurhaed allan or rhwydau.
16Edrych arnaf gwchaf gwedh
Athro gwyr a thrugaredh.
Wyf vnig ni chaf einioes
Druan yn gridhfan yn groes:
17Tynn fi arglwydh rhwydh a rhed
Oth awydh o gaethiwed.
18Gwyl fangen am trueni
fymhechodau madhau y mi.
19Fyngelynion bann soniynt
Aml a gwyl mor amlwg ynt.
Yn llidiog, oriog eiriau,
Ackw sy hawdh im kashau.
20Kadw fy enaid rhaid, yn rhydh
Tann goel im tynni o gwilydh:
Attad rhedaf, gweithiaf ged
Fy nuw adhas fy nodhed.
21Puredh a gwiredh gwarant
Per sydh im kadw por sant.
Kans arnad gwastad ith gaf
O drachwant yr edrychaf.
22Tynn Israel wyt hael yti,
O gul adwyth galedi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.