1Na fydh dhig orig fe weryd duw ’nol,
Rhag a wnel aflendyd:
Na dhal genfigen ennyd
Wrth anwiredh budredh byd.
2Fal gwelltglas dyras odorriant di syml,
Disym wth y gwywant:
Fal glaswair a wnair uwch nant
O lwyni y diflannant.
3Ymdhiriaid yt rhaid (nid tro adyn) Dduw,
Gweithia ’n dha yw galyn.
Trigi ’n war ir dhaear dhyn
Ti gai borth ieg a berthyn.
4Yn yr arglwydh swydh ni sudhai blasus
Bid dy bleser medhai:
Itti rhwydh etto rhodhai
Eirchion y galon a gai.
5D’amkanion vnion yna o fowredh
A fwri ar Iehofa:
Ymdhtriaid dywaid mae da
Ath bur ffydh fo ath berffeidhia.
6Dy gyfiownder ner a wnaeth i liwio,
Yn oleuad helaeth:
Fal canol dydh rydh yr aeth
Y dwg dy farnedigaeth.
7Yn dhistaw gwiliaw ar geli ganwaith,
Ag yno ny dhigi:
Er ffynny o dhyn gwyn gyni
Draig taer a wnaiff dhrwg yti.
8Gwrthod draw dhigiaw dha agwedh a gwyrth,
Gwrthod lid a ffromedh:
Ag na phecha gwaetha gwedh
Yn thyras o gyndharedh.
9Ond rhai drwg a gwg yn gaeth a dorrir,
Diriaid ynt yso waeth:
A gwilio Duw golud aeth
Ytti fydh etife dhiaeth.
10Yma hir bara bai arial o drais,
Ni all drwg go wammal:
Tannwydh ni chair hynt anial
O chwalu a chwilio i wal.
11Y rhinwedhawl hawl deheulu fadhau
Kaiff fedhiant daeardu:
Llawen fydhant ae wrantu,
Llawn tangnefedh kyledh ku.
12Yskeler lymer bob kamwedh oerbwnk,
Yn erbyn kyfiownedh:
Ffrom ni a rhinkian dannedh
Ynerbyn gelyn yw ’r gwedh.
13Yw brynti geli ior gwar Duw eurglod,
Yr arglwydh ae gw atwar:
Ef a wŷl fwy o alar
Derfyn i dydh bydh a bar.
14Tynnant gledhyf kryf kroew ofeg beias
Abwa saeth‐hedeg:
I ladh tylawd tafawd teg,
Ar kyfion vnion waneg.
15Yn hyf y kledhir kledhir o koeliwch,
Yn ikalon dhihir:
Eu bwa’n ol a bai ’n wir
O daw orig a dorrir.
16Gwell gwir a enwir y gronyn o fath,
A fytho ir kyfiown-dhyn:
Na golud mawr y gelyn
Wr galluog dhifiog dhyn.
17Torrir e fwrir yn fyrion bar vwch,
Breichiau ’r anuwiolion:
Duw a gynhal dyfal don
Orau kof y rhai kyfion.
18Gwyr yntau ’r dydhiau didawl daeonus,
A gaiff dynion Duwiawl:
Ae tifedhiaeth helaeth hawl
A drig vdhynt dragwydhawl.
19Mewn adfyd ennyd fel anwir kofus
Kyfiawn ni chwilydhir:
Bann dhel newyn gwŷn mewn gwir
Bid lownedh fo ae bodlonir.
20Diffydh draig dhevnydh drwgdhynion dirfawr
Duw derfydh d’elynion:
Falmwg aberth serth yw r son
O ran gwêr yr oen gwirion.
21Fo dhwg fenthig dig yw ’r dygiad leidrin
Ni thal adre ’n wastad:
Mae gan gyfion rodhion rhad
Ae drugaradh drwy gariad.
22Os blith y bendith o benn naf fydhai,
Kawn fedhiant daearen:
Edorrir fal y darren
A rego ef o nef nenn.
23Kynhal diofal Duw a dawn gamrau,
A gymrodh gwr kyfiawn:
A Duw a gar yn deg iawn
Enwog i lwybrau vniawn.
24Disgynned deled bob dolef fowrair,
Ni fwrir oe gartref:
Aeogoniant Duw gwiwnef
Kawn oe law ae kynhal ef.
25Bûm fachgen wyf hen heb huno yn wael,
Ni welais wrth rodio:
Wrthod kyfiawn dawn dano
Na cherdotta fara fo.
26Trugarog rhywiog yn i rhaid a rhwydh,
Yrhodhai ir truaniaid.
Bendithion gwnnion gweiniaid
O lwydhiant yw blant ai blaid.
27Gwrthod di henwi a hawl dhrigioni,
Daeoni bid vnawl:
Fo’th gedwir medhir a mawl
Drwy gwiwdhuw ’n dragwydhawl.
28Kar naf farn gadarn a gwir o kofiwch,
Kyfion ni wrthodir:
Etifedhion hwyrion hir
Y dyn astrus dinystrir.
29Kyfiownblant medhiant modhawl a gaffant,
Ae goffa ’n dhaearawl:
Yno trig o antur hawl
A gwedhai yn dragwydhawl.
30Genau kyfiawn llawn llenwr daith iown wych,
A doethineb gwelir:
I dafod yn gwybod gwir
Ag awydh ir farn gowir.
31Kyfraith ner dyner da anian gael,
Yw galon berffeidhlan:
Ag ni symud golud gan
Ollawl oe lwybrau allan.
32Y kyfion vnion yno drwy wegi.
mae ’r drygwas yw wilio:
Ag ef a gais odrais dro
Ludh ofid i ladh efo.
33Ni âd naf araf wirio hoen ami
Hwnn yma yw lithro:
Ni’ dewir pan fernir fo
ni fwrir o nef evro.
34Keidw ’r arglwydh rhwydh mewn rhaid wiw eurner,
Arno fo mae’r gwiliaid:
A gweli dorri’r diriaid
Medhienni ’n wir dir idaid.
35Balchïo chwydho (klowch wir) a golud,
Y gwelais yr anwir:
A lled fal lle dyfelir
Prenn kryfangog kangog ir.
36Er i hud golud gwelais ag allai,
Fo gollodh i fantais:
Keisiwyd ef yw dref o drais
Ag yn ol gwnn na welais.
37Ystyriwch gwelwch da yw gwedh kyfion,
Ar vnion da i rinwedh:
Terfyn Hwnn trwy ofyn hedh
Yn hyfedr yw tanghnefedh.
38Dilêir gyrrir nid fal gwirion hwnt,
A fydh hynt anghyfion:
Torrir terfynir trwy fon
Yn alaeth anvwiolion.
39Hefyd mae iechyd ichwi y kyfion,
Kofiwch vnduw geli:
Y mae yn nerth yma yni
In kul adwyth an kledi.
40Fe helpia yna enaid pob kyfion,
Rhag gofal gorthrech plaid:
Yn dhifradw i kadw y kaid
I dhuw ior a ymdhiriaid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.