Psalmau 118 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y CXVIII Psalm. Deuair hirion.

1Molwch f’arglwydh a swydh syw

Diau odiaeth da ydyw:

Tragywydh y bydh heb wad

I drugaredh drwy gariad.

2Dweded Israel hael awr honn

Daionus yw ir dynion:

Tragywydh y bydhh &c.

3Tûy Aron peawr rhôn y rhêd

I mewn dadl mwyn y dweded:

Tragywydh &c.

4Dwedant a ofnant yw wydh

Ner eurglod fy nuw ’r arglwydh:

Tragywydh &c.

5A rhwysg y gelwais fy rhi

Cûl adyn fûm mewn clêdi:

Clywodh gosododh gwi son

I dario ’n ehang dirion.

6F’arglwydh mwyn sydh yn wyneb

Nid ofna ’nghêl a wnêl neb:

7Mae fy rhi gida mi mwy

Accw o nerth im cynorthwy.

Fynghas rhai diras lle dôn

Caf f’wllys o’r cyfeillion;

8Gwell a fydh i gall fyw‐dhyn

Gobaith Duw na gobaith dyn:

9Gwell gobaith ner syber son

Sigl gobaith tywysogion.

10Y genedl arw‐chwedl oer‐chwant

Eusoes am cylchynasant:

Yn enw ein ner mowrder maith

Twrf amhwynt torraf hwy ymaith.

11Im ogylch fwrw amgylch fry

Ymaith Duw ae tyrr ymy:

12Amgylchant, gweithiant a gwŷn

Ofal gwnn fal y gwenyn.

Diffodhant gwelant gelain

Ae tynnu draw fal tân drain:

Herwydh i enw f’arglwydh tod

Torraf hwy ymaith torf amod.

13Mae ’r gelyn rhwth i’m gwthio

Minnau syrthiais trais fu ’r tro:

Ond fy ner a rhwydhder rhodh

Wrth Dhuw am cynorthwyodh.

14Duw fy nerth cyngerth am cân

Wych doeth am iechyd weithian:

15-16Gorfydh iechyd wiwbryd ion

Cofus ymhebyll cyfion:

Deheulaw yn aelaw ner

Mwys-daith a wnaiff rymysder.

17Y-marn oll nid marw a wnaf

O fedhwl byw a fydhaf:

Mynagat gweithiaf ar goedh

Duw iaith rad dy weithredoedh.

18Gann gospi om rhi im rhodh

Ag yspail ef a gospodh:

Nim rhodhodh mynnodh fy maeth

I afrolus farwolaeth.

19Agorwch heb fwy gerydh

Byrth yfiownder fwynder fydh:

Mi af ydhynt ar hynt rhwydh

O fowrglod molyf farglwydh.

20Araith wych dyna i borth ion

Yno yr aiff gwyr vnion.

21Clodforaf di Duw tri tro

Yngwir-unduw am ’ngwrando:

22Y maen hynod gwrthod gwyr

O lid, yr adeiladwyr:

Yn benn congl wrth dhehongli

Aeth yn sylfaen maen imi.

23O Dhuw y daeth helaeth hynn

Rhyfedh i’n gwydh y rhifyn:

24Llyma ’r dydh llym wradwydher

A wnaeth yn arglwydh a’n nêr.

Iown-dhull gorfoledh yndho

A llewenydh bydh lle bo:

25Atolwg arglwydh tenlu

Achub yn awr fal cawr cû.

Atolwg arglwydh swydh sant

Pôr iawn wledh par ynn lwydhiant:

26Bendith yn dhichwith a dhêl

Yn enw Duw ŷnn yn dawel.

O dûy yr arglwydh rhwydh rhôm

Eusoes ich bendithiasom:

27Duw yw ’n arglwydh rhwydh a’n rhi

Vnion lle wyrchodh yni.

Rhwymwch yn gall wrth allor

A rhaff aberth burwerth Bôr:

28Fy nuw byw ydwyt fy naf

O fowredh mi ath glodforaf.

Derchafaf dro vwch hefyd

Fy nuw byw tra fwy ’n y byd.

29Molwch f’arglwydh a swydh syw

Diau odiaeth da ydyw.

Tragywydh y bydh heb wad

I drugaredh drwy gariad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help