1Gwnfyd ennyd yw wyneb
A ofno nêr fwy na nêb:
A gâr yn dhirfawr (dêg Ion)
Ymannos i orchmynion.
2Ei had fydh codiad cadarn
Yn y tir fyth ond da ’r farn
A chenhedlaeth helaeth hir
Vnion doethion fendithir.
3A chyfoeth pwy ni chofiai
A golud oll gwyl yw dai:
Ae gyfiownder hyder hawl
A drig idho ’n dragwydhawl.
4E rannodh olau ir vnion
Ir tywyll os hyll’ yw sôn:
Cyflawn trugarawg hefyd
Tostur yw t gûr i gyd.
5Trugarog fydh mewn gwydh gwar
Mae ’n esgud gymwynasgar:
Rhola i eiriau helaeth
Ar ol y farn reiol faeth.
6Obru ’n hael fo bery ’n hîr
Is gwagedh nid ysgogir:
A chyfiawn fydh rydh lle ’r aeth
E dario i goffadwriaeth.
7Nid ofna ef sef fal sant
Y dryg‐chwedl dirywiog‐chwant:
Di-sigl ir gwîr ymdhiriaid
I galon ffrwythlon hôff raid
8Mae Duw ’n cynnal i galon
Nid ofna gri si na sôn:
Oni wyl yno i elyn
Wrth i wllys, dhyrys dhyn.
9Rhodhodh e rannodh yr ion
Dâl wedi i dylodion:
Ae gyfio wnder, gôf vndydh
Obru byth yn parhau bydh.
I gorn ef a dhyrchefir
Mewn gogoniant gwarant gwir:
10Gwyl anuwiel ffôl goff-ha
O Dhuw agwrdh fo dhigia.
Ysgyrnyg egwan dhannedh
Dwrf dig yn darfod yw wedh:
Derfydh anedwydh yn ol
Oer-chwaen yw arch anuwiel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.