Psalmau 62 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y LXII Psalm. Ynglyn Proest kadwynodl.

1Ymdhiriaid f’enaid fwyn waith

Ynod arglwydh rhwydh yr aeth:

Gan dhuw y kair mwynair maith

Vchod ior iechydwriaeth.

2Hefyd fy iechyd heb fâr

Ydyw am nerth dyma ’n wir:

Am dyrchafiad godiad gwâr

Ys mad ws nim sym vdir.

3Pa hyd y gweithiwch drwch dro

All gelyn ym erbyn i?

Ail magwyr a fai ’n gwyro

Ym lladh hwnt ond brwnt y bri:

4Rhwystrant naf nam dyrchafer

Agwaeledh‐gamp gelwydh-gar

Melltith fy yw klonnau mallter

Bendithion.

Teg eiriau yw genau gwar.

5Ymdhiriaid fenaid twynwaith

Ynod arglwydh rwydh yr aeth

Gann dhuw y kair mwynair maith

Vchod ior iechydwriaeth:

6Hefyd fy iechyd heb far

Ydyw am nerth dyma ’n wir

Am dyrchafiad godiad gwar

Ys mad ws nim iym vdir.

7Duw vcho ydwyd iechyd

Am gogoniant rhwy[d]hiant rhed,

Am kraig wenn am crug enhyd,

Am ion adhysg am nodhed.

8I dhuw rad ymdhiriedwch

Bawb bob amser krylder krych

Hoff isod a cnyffesswch

Duw yw ’n nodhed dynged wych.

9Plant dynion ffeilsion i stgdh

A fwriwyd mewn oteredh:

Ir klorian bychan y bydh

Yn goeg ysgafna gwagedh.

10Nag ymdhiried grededyn

I dreisiaw rheibiaw be rhôn

O daw golud dig eulyn

Nad i gael yn dy galon

11Duw dowawd yn barawd bêr

Mwy nag vnwaith affaith îr

Y klowaf fy naf am nêr

Duw yw nerth fal dyna wir.

12Genyt arglwydh rhwydh yn rhad

Trugaredh rhyfedh y rhed

I bawb y teli heb wad

Athro ar ol i weithred.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help