1Oes ail i wr sawl a êl
I lechu i le vchel:
Kaiff aros koffa vrael
Ynghysgod duw hynod hael.
2Dwedaf wrthyd hyfryd hedh
Fyng wirserch wyd fyngorsedh,
Duw parodfawr daprydferth
Am nawdh am gobaith am nerth.
3Duw ath gyrch kanys Duw ath gar
Dithan o rwydau ’r adar:
Ag o ganol dedhfol don
Y nodau rhag niweidion.
4D’ymdhiffin rhag bydhin bydh
Drwy danv draw i adenydh.
Ymwared yf mowrwawd oedh
Yn i esgyll yn wisgoedh:
For enwog i wirionedh
Yw’mwcled mawr clawr am cledh
5Yn y dyfnedh nid ofni
Nos erchyll to wyll y ti:
Na saeth gelyn na saethydh
A hed o dant hyd y dydh
6Nag er kaethed tynged honn
O do wyll frychau duon;
Na chlefyd benyd beunydh
Gann alw y dyn ganol dydh
7Er i filoedh, gyhoedh gylch.
Ath ymgais farw oth amgylch:
Ag er hynn mae ’n deg yrhad
Ni settia yn nes attad.
8Di a weli ’r dialedh
Ar dhynion drwg gwg yw ’r gwedh:
9Duw enwog ith dûy annedh,
Y goruchaf gwchaf gwedh:
10Ni dhigwydh hynn oedh wegi
Drwy gau twyll dim drwg yti.
I nevadh plaid ni dhaw pla
Doe adhfwyn du au wydhfa:
11Gorchmynnodh nododh dy naid
Angylion leng i wiliaid.
Ath gadwai soniai yw swydh
Ith lwybrau saith loew ebrwydh:
12Ath gynhal drwy attal draw
Yn deilwng yn i dwylaw,
Rhag briwd dy droed doed yn deg
Nae guro wrth vn garreg.
13Kai rodio kowir ydwyd
Asbis a llew ysbys llwyd:
A chenau llew a blew blaidh
A dragwn di-rowiogaidh.
14Am idho ’ngharu a’m modhion
Mi ae gwrandawaf doethaf dôn:
Am f’adnabod nôd wyf naf
I orchafiaeth dyrchafaf.
15Arnaf galwodh drwy fodh draw
O fodh atebaf idhaw:
Gidag ef wyf gwedi gwawd
Diwair ollawl yw drallawd.
Achubaf kadwaf wr ku
O nawdh yw ogonedhu.
16Kaiff hirhoedl koffa eirian
Kenny fi ackw ’n y fann.
Adhwyn dangosaf idho
Fy iechyd trwy wynfyd tro.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.