1Rwy’n credu yn Nuw Dad Hollgyfoethog,
2Creawdwr y ddaear a’r nef,
3Ac yn Iesu Grist, ein Gwaredwr,
4Ei uniganedig Fab ef,
5A aned i’r byd o Fair Forwyn,
6Dan Pilat dioddef a wnaeth,
7Croeshoeliwyd ef drosom, bu farw,
8A disgyn i uffern yn gaeth.
9Y trydydd dydd fe atgyfododd,
10Esgynnodd i’r nefoedd at Dduw,
11Oddi yno fe ddaw mewn gogoniant
12I farnu y meirw a’r byw.
13Rwy’n credu yn yr Ysbryd Glân hefyd,
14Un Eglwys, a Christ iddi’n ben,
15Ac yn atgyfodiad y meirw,
16A’r bywyd tragwyddol. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.