1-2Pan adferodd Duw i Seion
Lwyddiant, roeddem lon ein calon.
Llawn o chwerthin oedd ein genau;
Bloeddio canu a wnâi’n tafodau.
3A dywedai ein gelynion,
“Gwnaeth Duw iddynt bethau mawrion”.
Do, gwnaeth bethau mawrion inni.
Llawenhau a wnawn am hynny.
4-5Ein llwyddiannau, Arglwydd, adfer,
Megis ffrydiau lle bu sychder.
Boed i’r rhai sy’n hau mewn dagrau
Mewn gorfoledd fedi’r cnydau.
6Boed i hwnnw sydd yn cario
Ei sach hadyd gan ochneidio
Gael dychwelyd mewn gorfoledd
Ag ysgubau trwm ddigonedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.