1-4Gelwais arnat o’r dyfnderau;
Clyw fi, fy Nuw.
Arglwydd, gwrando fy ngweddïau;
Clyw fi, fy Nuw.
Os wyt ti yn sylwi ar fethiant,
Pwy a all osgoi difodiant?
Ond mae gyda thi faddeuant.
Clyw fi, fy Nuw.
5-6Wrth yr Arglwydd y disgwyliaf;
Clyw fi, fy Nuw.
Yn ei air ef y gobeithiaf;
Clyw fi, fy Nuw.
Disgwyl rwyf am Dduw bob cyfle,
Mwy na’r gwylwyr am y bore,
Mwy na’r gwylwyr am y bore.
Clyw fi, fy Nuw.
7-8Israel, rho dy obaith ynddo;
Clyw fi, fy Nuw.
Cans y mae ffyddlondeb ganddo;
Clyw fi, fy Nuw.
Gydag ef y mae yn helaeth
I bobl Israel waredigaeth
Oddi wrth bob damnedigaeth.
Clyw fi, fy Nuw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.