1-2Na chenfigenna wrth y drwg,
Na gwgu ar ddihiryn,
Cans gwywant hwy fel glaswellt sych,
Fel glesni gwych y gwanwyn.
3-4Ymddiried yn yr Arglwydd Dduw,
Gwna dda; cei fyw mewn digon.
Mawrha yr Arglwydd, a chei’n rhydd
Ddeisyfiad cudd dy galon.
5-6Rho di dy dynged ar Dduw’r nef,
Rhydd ef ei gymorth iti;
D’uniondeb fydd fel haul prynhawn
Yn loyw a llawn goleuni.
7Bydd amyneddgar yn dy fyw,
Disgwyl am Dduw yn raslon;
Ac na fydd ddicllon wrth y rhai
Sy’n llwyddo â’u cynllwynion.
8-9Paid byth â digio, cans fe ddaw
Drwg di-ben-draw i’r llidus;
Pobl Dduw a etifedda’r tir,
Dinistrir y drygionus.
10-11Cyn hir fe gilia’r drwg o’i dref,
A’i le fydd anghyfannedd,
A’r gwylaidd yn meddiannu’r tir
A’i ddal mewn gwir dangnefedd.
12-13Cynllwynia’r drwg i daro’r da,
Ac ysgyrnyga’i ddannedd;
Ond chwardd yr Arglwydd am ei ben,
Aflawen fydd ei ddiwedd.
14-15Fe gais rhai drwg â’u bwa a’u cledd
Roi diwedd ar rai bychain,
Ond fe â’r saeth a’r cleddyf drwy
Eu calon hwy eu hunain.
16-17Gwell yw’r ychydig sydd i’r doeth
Na chyfoeth y drygionus.
Dileir y drwg, ond bydd Duw’n dal
I gynnal y difeius.
18-19Fe wylia’r Arglwydd dros y da,
Parha eu hetifeddiaeth;
A phan fydd newyn yn y tir
Bydd ganddynt wir gynhaliaeth.
20Ond fel coed tân mewn fflamau coch
Gelynion croch yr Arglwydd
A dderfydd; cilia y rhai drwg
Bob un fel mwg yn ebrwydd.
21Ni thâl yr un drygionus, ffôl
Yn ôl ddim a fenthyciodd;
Ond am y cyfiawn, hwn a fydd
Yn rhoi yn rhydd o’i wirfodd.
22Rhydd Duw ei etifeddiaeth hael
I’r sawl sy’n cael ei fendith,
Ond torrir ymaith y rhai cas
A brofodd flas ei felltith.
23-24Cyfeiria’r Arglwydd gamau’r da,
Fe’i gwylia ef yn ddyfal;
Er iddo gwympo, cwyd yn rhwydd:
Mae’r Arglwydd yn ei gynnal.
25Yr holl flynyddoedd y bûm byw
Ni welais Dduw hyd yma
Yn troi ei gefn ar unrhyw sant
Na pheri i’w blant gardota.
26-27Hael a thrugarog ydyw’r da,
A’i blant ef a fendithir.
Tro oddi wrth ddrwg; gwna’r hyn sydd dda,
A’th gartref a ddiogelir.
28-29Oherwydd câr yr Arglwydd farn,
Ni sarn ar ei ffyddloniaid;
Ond torrir plant y drwg o’r tir,
Difethir pechaduriaid.
30-31Fe drig y cyfiawn yn y tir
Yn ddoeth a gwir ei eiriau;
Mae yn ei galon ddeddf ei Dduw,
A sicr yw ei gamau.
32-33Fe wylia’r drwg y da; cais le
A chyfle i’w lofruddio,
Ond nid yw Duw’n ei iselhau
Na chaniatáu’i gondemnio.
34Disgwylia wrth yr Arglwydd; glŷn
Wrth ffordd yr Un daionus,
Ac fe gei etifeddu’r tir,
Ond chwelir y drygionus.
35-36Mi welais i’r drygionus, do
Yn brigo fel blaguryn,
Ond llwyr ddiflannodd, heb ddim sôn
Amdano’n fuan wedyn.
37-38Gwêl di’r di-fai, heddychlon ŷnt,
A chanddynt ddisgynyddion,
Ond am y drwg, bydd Duw yn eu
Dileu, a’u plant a’u hwyrion.
39-40Daw oddi wrth Dduw achubiaeth lawn
I’r cyfiawn mewn cyfyngder,
Rhag drwg fe’u harbed am eu bod
Yn gosod arno’u hyder.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.