Salmau 148 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 148Boed i’r holl fyd foli’r ArglwyddHengoed 10.7.7.7.9

1-4Molwch yr Arglwydd! Molwch o’r nefoedd!

Molwch, chwi’i holl engyl ef;

Haul a lloer a’r sêr bob un,

Lluoedd nef, a’r nef ei hun,

A’r holl ddyfroedd sydd fry uwch y nef.

5-6Boed iddynt foli enw yr Arglwydd.

Boed iddynt foli’n Duw ni.

Ar ei air y crewyd hwy,

Ac fe’u gwnaeth yn sicr byth mwy,

A rhoes ddeddf iddynt nas torrir hi.

7-9aMolwch yr Arglwydd! Molwch o’r ddaear,

Ddreigiau’r dyfnderau i gyd,

Cenllysg oer a mwg a thân,

Gwynt ystormus, eira mân,

Y mynyddoedd a holl fryniau’r byd;

9b-12Coed a bwystfilod, adar, ymlusgiaid,

Pobl a brenhinoedd a holl

Farnwyr ac arweinwyr byd,

Hen ac ifanc oll ynghyd,

A’r gwyryfon a’r gwŷr ifainc oll.

13-14Boed iddynt foli enw yr Arglwydd,

Enw heb ail iddo yw.

Mae uwchlaw y byd a’r nef,

Moliant Israel ydyw ef.

Molwch, molwch yr Arglwydd ein Duw!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help