Salmau 105 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 105Y Duw sy’n cadw’i addewidCruger 76.76.D

1-6Diolchwch oll i’r Arglwydd

Ar weddi ac ar gân.

Hysbyswch ei weithredoedd,

A moli’i enw glân.

Addolwch ef, a chofiwch

Holl ryfeddodau’i ras,

Chwi blant ei ffefryn, Jacob,

Ac Abraham, ei was.

7-11Ef yw ein Duw, yr Arglwydd.

Mae’n barnu’r byd heb gam.

Mae’n cofio ei gyfamod,

Ei lw i Abraham,

I Isaac ac i Jacob,

A’i eiriau sy’n ddi-lyth:

“I chwi y rhof wlad Canaan

Yn etifeddiaeth byth”.

12-15Pan nad oedd cenedl Israel

Ond bechan, ac ar daith

O wlad i wlad, ni chafodd

Neb ei darostwng chwaith.

Ceryddodd ef frenhinoedd,

A’u siarsio, “Peidiwch chwi

 chyffwrdd â’m heneiniog

Nac â’m proffwydi i”.

16-19Cyn anfon newyn, trefnu

I’w bwydo hwy a wnaeth,

Pan yrrodd eu brawd, Joseff,

O’u blaen i’r Aifft yn gaeth.

Fe roed ei draed mewn cyffion

A’i wddf mewn cadwyn gref,

Nes profodd gair yr Arglwydd

Mai gwir ei eiriau ef.

20-23Yr Arglwydd a anfonodd

Y brenin i’w ryddhau

A’i wneud yn llywodraethwr

Y deyrnas, i’w chryfhau,

A dysgu i’w henuriaid

Ddoethineb yn eu gwaith.

Ac yna daeth plant Israel

I grwydro yn nhir yr Aifft.

24-27Fe’u gwnaeth yr Arglwydd yno

Yn bobl ffrwythlon iawn.

Gwnaeth galon eu gelynion

O ddichell cas yn llawn.

Daeth Moses, a’i frawd, Aaron,

Drwy’i air, i sythu’r cam,

A thrwyddynt gwnaeth arwyddion

A gwyrthiau yn nhir Ham.

28-32Er anfon drosti gaddug,

Terfysgai’r Aifft yn fwy;

Fe droes yn waed ei dyfroedd,

A lladd eu pysgod hwy,

A llenwi’r tir â llyffaint

A gwybed yn un haid;

Trwy’r wlad fe lawiai cenllysg

A fflachiai mellt di-baid.

33-36Fe drawodd ffrwyth eu gwinwydd

A’r holl ffigyswydd ir.

Llefarodd, a daeth cwmwl

Locustiaid dros y tir

I lwyr ddinistrio’r glaswellt

A difa’r cnydau ŷd;

A’u plant cyntafanedig

A drawodd yn ei lid.

37-40Ac yna dug hwy allan,

Ag aur ac arian drud,

A’r Eifftiaid, yn eu harswyd,

Yn llawenhau i gyd.

Rhoes gwmwl i’w gorchuddio,

Goleuo’r nos â thân;

Anfonodd iddynt soflieir

A bara’r nefoedd lân.

41-45Fe holltodd graig nes tarddodd

Y dŵr drwy’r anial cras,

Cans cofiodd ei addewid

I Abraham, ei was.

Rhoes diroedd y cenhedloedd

I’w bobl yn lle i fyw,

I gadw ei gyfreithiau

A’i ddeddfau. Molwch Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help