Salmau 110 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 110Dathlu gorseddu’r breninOmni Dei 87.87

1Oracl Duw i’m brenin: “Eistedd

Di ar fy neheulaw i,

Nes im osod dy elynion

Megis troedfainc danat ti”.

2Fe rydd Duw o Seion wialen

Ei awdurdod yn dy law;

Llywodraetha dithau’n nerthol

Dros dy holl elynion draw.

3Mae dy bobl yn deyrngar iti

Ar ddydd d’eni o groth y wawr

Mewn gogoniant glân; cenhedlais

Di, fel gwlith, yn frenin mawr.

4-5aTyngodd Duw, “Yr wyt offeiriad,

Fel Melchisedec, am byth”.

Bydd yr Arglwydd yn amddiffyn

Dy ddeheulaw yn ddi-lyth.

5b-6aPan ddaw dydd ei ddig, dinistria

Holl frenhinoedd balch y byd.

Barna ymysg yr holl genhedloedd,

Ac fe’u lleinw â meirwon mud.

6b-7Fe ddinistria Duw benaethiaid

Gwledydd daear yn eu chwant;

Ond fe rydd i frenin Israel

Rym pan yf o ddŵr y nant.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help