Salmau 121 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 121Cymorth gan DduwAltona MS

1-2Tua’r mynyddoedd syllu a wnaf;

P’le y caf gymorth hawddgar?

Fe’i caf oddi wrth yr Arglwydd; ef

A greodd nef a daear.

3-4Nid yw yn goddef llithro o’th droed;

Ni fu erioed yn huno.

Nid ydyw ceidwad Israel gu

Yn cysgu na gorffwyso.

5-6Fe geidw’r Arglwydd dy holl fod;

Rhydd gysgod rhag dy lethu.

Ni chaiff haul llethol y prynhawn

Na lleuad lawn d’anafu.

7-8Fe geidw’r Arglwydd d’einioes di

Rhag pob drygioni beunydd;

Fe wylia dros dy fynd a’th ddod,

A’th warchod yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help