Salmau 6 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 6Gweddi mewn cyfyngderMoab 65.65.66.65

1-3O Arglwydd, yn dy ddig,

Paid â’m ceryddu,

Ond trugarha, fy Nuw,

Cans rwy’n clafychu.

O tyred i’m hiacháu;

Brawychwyd f’esgyrn brau;

Arswydaf a thristáu.

Pa hyd y pery?

4-7O Arglwydd, gwared fi,

Yn d’ofal ffyddlon,

Cans pwy all yn y bedd

Dy foli o galon?

Fy ngwely’n foddfa sydd

Gan ddagrau nos a dydd,

A phŵl fy llygaid prudd

Gan fy ngelynion.

8-10Ewch ymaith, chwi rai drwg,

Sy’n fy mhoenydio,

Oherwydd clywodd Duw

Fi’n beichio wylo.

Gwrandawodd arnaf fi,

Derbyniodd ing fy nghri.

Fe ddrysa’ch cynllwyn chwi,

A’ch cywilyddio.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help