1-2Arglwydd, clyw fy ngweddi, gwrando fy neisyfiad.
Yn dy fawr ffyddlondeb a’th gyfiawnder, ateb fi.
Paid â rhoi dy was, O Arglwydd, dan gondemniad:
Nid oes neb byw yn gyfiawn o’th flaen di.
3-5aY mae’r gelyn wedi f’ymlid i a’m llorio,
Gwnaeth im eistedd, fel y meirw, mewn tywyllwch du.
Pallodd f’ysbryd ynof, ac rwyf yn arswydo,
Ond rwyf yn cofio am yr hyn a fu.
5b-6Ar bob peth a wnaethost yr wyf yn myfyrio,
Ac yr wyf yn meddwl am holl waith dy ddwylo gwych.
Arglwydd, rwyf yn estyn atat ti fy nwylo,
Ac yn sychedu amdanat fel tir sych.
7-8aBrysia ataf, Arglwydd; pallu y mae fy ysbryd;
Arglwydd, paid â chuddio d’wyneb oddi wrthyf fi,
Neu mi fyddaf fel y meirw yn yr isfyd.
Rho im, y bore, flas o’th gariad di.
8b-9Cans rwyf yn ymddiried ynot, Arglwydd ffyddlon.
Dangos imi’r ffordd i’w cherdded, cans dyrchefais i
F’enaid atat. Gwared fi rhag fy ngelynion,
Oherwydd ffois am gysgod atat ti.
10-11aDysg im wneuthur dy ewyllys di a’th fwriad,
Canys ti, O Arglwydd, ti yn unig, yw fy Nuw.
Boed i’th ysbryd da fy arwain i dir gwastad;
Er mwyn dy enw cadw fi yn fyw.
11b-12Yn dy fawr gyfiawnder dwg fi o’m hanallu,
A’m gelynion, yn dy gariad mawr, distawa di.
A dinistria’r holl rai sydd yn fy ngorthrymu,
Canys dy was, O Arglwydd, ydwyf fi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.