1-3Canwch newydd gân i’r Arglwydd,
Bobl y ddaear oll i gyd,
Ei fendithio a chyhoeddi’i
Iachawdwriaeth ef o hyd,
Taenu ar led ei ryfeddodau
Ymysg holl genhedloedd byd.
4-6Teilwng iawn o fawl yw’r Arglwydd;
Mwy na’r duwiau ydyw ef.
Duwiau’r bobloedd ŷnt eilunod,
Ond ein Duw a wnaeth y nef.
Mae anrhydedd a gogoniant,
Nerth a mawredd yn ei dref.
7-9Rhowch i’r Arglwydd, chwi dylwythau
Y cenhedloedd, foliant llon;
Dygwch offrwm i’w gynteddoedd,
Ac ymgrymwch bawb gerbron
Holl ysblander ei sancteiddrwydd.
Crynwch rhagddo, ddaear gron.
10-12aA mynegwch i’r cenhedloedd:
“Brenin ydyw’r Arglwydd mawr”;
Bydd yn barnu’r bobl yn uniawn,
Ac mae’r byd yn sicr yn awr.
Llawenhaed y nefoedd uchod,
Gorfoledded daear lawr.
12b-13Llawenhaed y maes a’i gynnwys.
Caned prennau’r wig i gyd
O flaen Duw, cans y mae’n dyfod
I reoli a barnu’r byd –
Barnu’r ddaear mewn cyfiawnder
A’i holl bobl â’i degwch drud.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.