1-2Duw Israel, bendigedig fo
Am iddo ymweld â'i bobol;
Ein prynu ni yn rhydd a wnaeth
Trwy waredigaeth nerthol.
3-4aTrwy enau ei broffwydi glân
Bu’n dweud amdani droeon –
Y deuai i’n gwaredu rhag
Pwy bynnag fo’n gelynion.
4b-5aFel hyn y gwnaeth drugaredd rad
Â’n tadau gynt, gan gadw
Y llw a wnaeth i Abraham
A’r glân gyfamod hwnnw:
5b-6Y dôi i’n hachub ni, rai gwael,
O afael ein gelynion
I’w wasanaethu ef yn iawn,
Yn gyfiawn ac yn ffyddlon.
7-8A thi, fy mhlentyn, byddi byw
Yn broffwyd Duw; ei lwybrau
A baratoi, a rhoi i’w blant
Faddeuant o’u pechodau.
9-10Cans Duw, yn ei drugaredd fawr,
A ddaw â'r wawrddydd olau
I bawb sy’n byw yn ofn y bedd,
A heddwch i’n heneidiau.
I’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân
Boed cân gogoniant bythol;
Fel y mae’n awr, ac fel y bu,
Y pery yn dragwyddol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.