Salmau 103 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 103Trugarog a graslon yw’r ArglwyddCyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D

1-5Bendithied y cyfan sydd ynof

Lân enw yr Arglwydd o hyd.

Na foed im anghofio’i holl ddoniau:

Mae’n maddau ’nhroseddau i gyd.

Ef sydd yn iacháu fy afiechyd,

Ac yn fy ngwaredu o Sheol.

Y mae’n fy nghoroni â chariad,

Yn dwyn fy ieuenctid yn ôl.

6-9Mae’r Arglwydd yn gwneuthur cyfiawnder

I bawb sydd dan orthrwm a thrais.

Fe ddysgodd ei ffyrdd gynt i Moses,

A chlywodd plant Israel ei lais.

Trugarog a graslon yw’r Arglwydd;

Ni lidia; mae’n ffyddlon ddi-lyth.

Nid yw yn ceryddu’n ddiddiwedd

Na meithrin ei ddicter am byth.

10-14Ni thalodd i ni ein troseddau,

Ond, fel y mae’r nef dros y byd,

Mae’i gariad ef dros bawb a’i hofna.

Pellhaodd ein pechod i gyd

Mor bell oddi wrthym ag ydyw’r

Gorllewin o’r dwyrain; cans gŵyr

Mai llwch ydym ni, ac, fel rhiant

Wrth blentyn, tosturia yn llwyr.

15-18Mae’n dyddiau ni megis glaswelltyn.

Blodeuwn fel blodau ar ddôl;

Ond pan ddaw y gwynt, fe ddiflannwn:

Ni ddeuwn i’n cartref yn ôl.

Ond y mae ffyddlondeb yr Arglwydd

A’i iawnder am byth yn parhau

I’r rhai sydd yn cadw’i gyfamod

A’i ddeddfau, ac yn ufuddhau.

19-22Mae gorsedd ein Duw yn y nefoedd,

Ac ef sy’n rheoli pob peth.

Bendithiwch yr Arglwydd, angylion,

Sy’n gwneuthur ei air yn ddi-feth.

Bendithiwch yr Arglwydd, ei luoedd,

Sy’n gwneud ei ewyllys; a chwi,

Ei holl greadigaeth, bendithiwch

Yr Arglwydd ein Duw gyda mi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help