Salmau 10 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 10Duw’n noddfa i’r diamddiffynLlanfair 74.74.D

1-4Pam, O Dduw, y sefi draw

Mewn cyfyngder

Pan fo’r drwg yn peri braw

Yn ei falchder?

Barus ac ymffrostgar yw

Yn ei chwantau.

Gwawdia’r Arglwydd, caeodd Dduw

O’i gynlluniau.

5-8Mae dy farnau di’r tu hwnt

I’w amgyffred.

Dywed yn ei feddwl brwnt,

“Ni chaf niwed.”

Mae’n llawn melltith, trais a gwawd

A drygioni.

Llecha’n gudd i ladd y tlawd

Mewn pentrefi.

9-12Gwylia, megis llew o’i ffau,

Am y truan,

Ac fe’i dena i’r dychrynfâu

Sy’n ei guddfan.

Dywed, “Trodd yr Arglwydd draw,

Ac ni falia.”

Cyfod, Arglwydd, cod dy law.

Nac anghofia.

13-15Pam y mae’r rhai drwg, O Dduw,

Yn dy wawdio,

Ac yn dweud o hyd, “Nid yw

Ef yn malio”?

Ond rwyt ti yn sylwi ar boen

Yr anffodus.

Cod a dryllia nerth a hoen

Y drygionus.

16-18Duw sydd frenin; blin fydd ffawd

Y cenhedloedd.

Arglwydd, clywaist gwyn y tlawd

Yn eu hingoedd.

Gwnei gyfiawnder iddynt hwy,

A’u hamddiffyn,

Ac ni chaiff meidrolion mwy

Beri dychryn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help