1-4aMae f’enaid yn mawrygu
Yr Arglwydd; yn fy Nuw
Fe orfoleddodd f’ysbryd,
Cans fy ngwaredwr yw.
Ystyriodd fy nistadledd;
Hyd byth fe’m gelwir i
Yn wynfydedig; parodd
Duw bethau mawr i mi.
4b-7A sanctaidd yw ei enw;
Mae ei drugaredd ef
Am byth i bawb a’i hofna.
Gwnaeth rym â’i ddwyfraich gref:
Gwasgarodd y rhai beilchion,
Dyrchafu’r tlawd a’r noeth,
A bwrw tywysogion
Oddi ar orseddau coeth.
8-10Fe lwythodd y newynog
 rhoddion da a drud,
A throi’r cyfoethog ymaith
Yn waglaw oll i gyd.
Rhoes gymorth i’w was Israel,
A gwnaeth drugaredd rad,
Yn ôl ei hen addewid,
Ag Abraham a’i had.
I’r Tad y bo’r gogoniant,
I’r Mab a’r Ysbryd Glân –
Y Drindod sydd yn Undod
Dros oesoedd diwahân.
Fel yr oedd yn y dechrau
Y mae yn awr o hyd,
Ac felly y bydd yn wastad
Am byth tra pery’r byd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.