Salmau 132 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 132Duw’n ethol Seion a DafyddLlantrisant 88.88

1-2Cofia am Ddafydd, Arglwydd tirion;

Cofia am ei holl dreialon;

Cofia am ei lw angerddol

I Un Grymus Jacob dduwiol:

3-5“Nid af byth i mewn i’m pabell,

Ni chymeraf gwsg na hunell,

Ni orffwysaf byth yn unman

Nes cael gwneud i’r Arglwydd drigfan”.

6-7Yn Effratha gynt fe glywsom

Am yr arch, ac yna cawsom

Hi ym meysydd coed y gelli.

Awn i’r deml, a phlygwn wrthi.

8-9Cyfod, Arglwydd, i’th orffwysfa,

Ti ac arch dy nerth; a gwisga

 chyfiawnder dy offeiriaid.

Gorfoledded dy ffyddloniaid.

10-11aEr mwyn Dafydd, dy was enwog,

Paid â gwrthod dy eneiniog.

Gynt i’r brenin Dafydd tyngaist

Sicr adduned, ac fe’i cedwaist:

11b-12“Mi osodaf byth ar d’orsedd

Un o ffrwyth dy gorff i eistedd;

Ac, os ceidw fy nghyfreithiau,

Caiff ei fab ei ddilyn yntau”.

13-14Canys Seion a ddewisodd

Duw yn drigfan, a dywedodd:

“Hon am byth fydd fy ngorffwysfa;

Mi ddewisais drigo yma.

15-16Â bwyd ddigon fe’i bendithiaf;

Ei holl dlodion a ddigonaf.

Rhof gyfiawnder i’w hoffeiriaid,

Gorfoledda ei ffyddloniaid.

17-18Llinach Dafydd fydd sefydlog;

Byth ni ddiffydd lamp f’eneiniog.

Daw cywilydd i’w elynion;

Gwisga yntau ddisglair goron”.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help