1-2O molwch yr Arglwydd! Da yw rhoi mawl iddo,
Cans mae ein Duw yn drugarog ei fryd.
Mae’n adeiladu Jerwsalem – yno
Y dwg blant Israel o bedwar ban byd.
3-6Iachâ’r rhai drylliedig a rhwymo’u harchollion;
Rhifa ac enwi’r holl sêr. Y mae’n fawr,
Yn ddoeth ddifesur. Mae’n codi’r rhai tlodion,
Ond y mae’n bwrw’r drygionus i’r llawr.
7-8O canwch i’r Arglwydd mewn diolch â’r delyn.
Ef sy’n rhoi glaw o’i gymylau i’r tir.
Gwisga’r mynyddoedd â glaswellt, ac enfyn
At ein gwasanaeth blanhigion sydd ir.
9-11Mae’n rhoddi i’r holl anifeiliaid eu porthiant,
A’r hyn a fynnant i gywion y frân.
Nid yn nerth march na grym gŵr y mae’i fwyniant,
Ond yn y rhai y mae’u ffydd ynddo’n lân.
12-14Jerwsalem, mola dy Dduw, a thi, Seion,
Cans fe gryfhaodd dy furiau i gyd.
Rhoes iti heddwch, bendithiodd dy feibion,
Ac fe’th ddigonodd â’r gorau o’r ŷd.
15-18Mae’n anfon i’r ddaear ei air, ac yn rhoddi
Barrug fel lludw ac eira fel gwlân,
Rhew megis briwsion, ac yna’n eu toddi,
Pan yrr ei wyntoedd, yn ddŵr gloyw, glân.
19-20Mynega i Jacob ei holl eiriau diwall,
Ei ddeddfau a’i farnau Israel a glyw.
Ni wnaeth mo hyn â’r un genedl arall.
Molwch, O molwch yr Arglwydd ein Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.