Salmau 125 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 125Duw o amgylch ei boblWas Lebet 11.10.11.10

1-2Y mae pob un sy’n rhoi’i ffydd yn yr Arglwydd

Fel Mynydd Seion, yn aros am byth.

Fel y mae’r bryniau o amgylch Jerwsalem,

Mae Duw o amgylch ei bobl yn ddi-lyth.

3-4Er bod teyrnwialen y drwg yn ymestyn

Dros dir y cyfiawn, nid hir y parha,

Rhag troi o’r uniawn i wneud anghyfiawnder.

Gwna di ddaioni, O Dduw, i’r rhai da.

5Ond am y rhai sydd yn gwyro i ffyrdd troellog,

Bydded i’r Arglwydd eu difa i gyd,

Ynghyd â phawb o’r gwneuthurwyr drygioni.

Bydded tangnefedd ar Israel o hyd!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help