Salmau 2 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 2Duw a’r cenhedloeddClawdd Madog 76.76.D

1-2Paham y mae’r cenhedloedd

Yn derfysg oll i gyd,

A’r bobloedd yn cynllwynio

Yn ofer ledled byd?

Brenhinoedd, llywodraethwyr,

Yn trefnu byddin gref

Yn erbyn Duw, yr Arglwydd,

A’i fab eneiniog ef.

3-6“Fe ddrylliwn ni eu rhwymau

A’u rhaffau,” yw eu cri;

Ond chwerthin y mae’r Arglwydd,

A’u gwatwar yn eu bri.

Llefara yn ei ddicter,

A’u llenwi oll â braw:

“Gosodais i fy mrenin

Ar fynydd Seion draw.”

7-9“Adroddaf,” meddai’r brenin,

“Ddatganiad Duw i mi:

‘Fi a’th genhedlodd heddiw.

Yn wir, fy mab wyt ti,

Rhof iti’n etifeddiaeth

Y gwledydd yn ddi-lai.

Fe’u drylli â gwialen haearn,

A’u malu fel llestr clai.’”

10-12Yn awr, frenhinoedd, pwyllwch,

A rhowch, heb dywallt gwaed,

Wasanaeth gwiw i’r Arglwydd;

Cusanwch oll ei draed.

Rhag iddo ffromi a’ch difa,

Cans chwim yw llid Duw’r nef.

Gwyn fyd y rhai sy’n gwneuthur

Eu lloches ynddo ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help